Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn Cydsyniad Brenhinol Bil y Sector Amaethyddol (Cymru) ar 30 Gorffennaf 2014, lansiais ymgynghoriad 12 wythnos ar 7 Awst 2014 i holi barn y cyhoedd yng Nghymru ar gyfansoddiad a swyddogaethau Panel Cyngori ar Amaethyddiaeth Cymru a argymhellwyd o dan y Ddeddf.  

Roeddwn yn falch bod canlyniadau’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth gyffredinol o fewn y diwydiant i’r Panel, ac felly, ar 27 Mawrth 2015, lansiais ail ymgynghoriad mwy manwl.  Roedd yr ail ymgynghoriad hwn wedi’i seilio ar bedwar cynnig craidd ynghylch pwy ddylai fod ar y Panel, sut y dylid dewis aelodau rhanddeilaid y Panel, sut y dylid dewis aelodau annibynnol, a phwerau a chylch gwaith y Panel ei hun.    

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Mehefin 2015 a chafwyd 24 ymateb gan amrywiol unigolion a sefydliadau a gymerodd y cyfle i ehangu ar eu hymatebion cychwynnol, gan gynnig sylwadau adeiladol ac awgrymiadau arloesol.  

Fel y dengys y crynodeb o ymatebion, roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno gyda chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y  Panel tra hefyd yn cynnig sylwadau ychwanegol.  Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried y sylwadau ychwanegol wrth i swyddogion gwblhau darpariaethau’r Gorchymyn Statudol fydd yn sefydlu’r Panel.  Bydd modd gweld y crynodeb o ymatebion ar lein.

Bydd gofyn i’r sefydliadau hynny sy’n cael eu dewis i gynnig cynrychiolwyr  ddewis ymgeiswyr priodol o’u haelodau eu hunain i eistedd ar y Panel.  Bydd y sefydliadau’n cael eu dewis yn unol â’r angen i sicrhau cynrychiolaeth gytbwys o weithwyr a chyflogwyr, rhywbeth y mae pob ymatebydd wedi’i nodi sydd o bwys mawr.  Bydd aelodau annibynnol yn cael eu dewis drwy’r Broses Benodiadau Cyhoeddus i sicrhau bod personau amrywiol, sydd â’r cymwysterau a’r profiad priodol yn cael eu penodi i ddarparu mewnbwn arbenigol ac annibynnol i waith y Panel.  

O ystyried cylch gwaith eang a phwysig y Panel, a’r amser sydd ei angen ar gyfer Proses Penodiadau Cyhoeddus effeithiol, fy mwriad yw sicrhau bod aelodau’r Panel yn cael eu dewis, a hefyd sefydlu’r fframwaith erbyn mis Chwefror 2016.  

Unwaith y bydd y Panel wedi’i sefydlu, bydd yn chwarae rhan hollbwysig yn gosod fframwaith o gyflogau teg a thelerau ac amodau cyflogaeth eraill i bob gweithiwr amaethyddol yng Nghymru, gan gyfrannu at agenda Trechu Tlodi ehangach y Llywodraeth hon, drwy leihau tlodi gwledig a chefnogi economïau a chymunedau gwledig ledled Cymru.  Bydd gan y Panel rôl i’w chwarae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd a datblygu sgiliau yn y sector, gan helpu nod gyffredinol Llywodraeth Cymru o foderneiddio a sicrhau bod y diwydiant yn fwy proffesiynol, yn unol â’n Fframwaith Strategol ar gyfer amaethyddiaeth.  

Hoffwn nodi fy niolchiadau diffuant i bawb a gymerodd yr amser i ystyried ac ymateb i gynigion yr ymgynghoriad, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid wrth i Lywodraeth Cymru gwblhau’r broses o greu y corff  hanesyddol a phwysig hwn.  

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.