Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r system ardrethi annomestig yn codi refeniw sy'n helpu i dalu am wasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru. Mae'r holl refeniw a godir drwy ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ailddosbarthu i gyrff llywodraeth leol a phlismona yng Nghymru. Mae'n helpu i dalu am y gwasanaethau - addysg, gofal cymdeithasol, rheoli gwastraff, trafnidiaeth, amddiffyn y cyhoedd, hamdden ac amwynderau amgylcheddol - yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Heb y ffrwd refeniw blynyddol hon o £1 biliwn, byddai'r gwasanaethau hyn yn dioddef ac mae'n hollbwysig fod pawb yn gwneud cyfraniad teg tuag ati.

Mae hefyd yn hollbwysig fod y system ei hun yn deg. Un o elfennau allweddol y system ardrethi yng Nghymru yw bod gan bob trethdalwr yr hawl i apelio yn erbyn ei brisiad os yw'n credu ei fod yn anghywir. Mae'n bwysig bod trethdalwyr yn talu'r swm cywir o ran ardrethi, ac os nad yw hynny'n digwydd bod y sefyllfa'n cael ei hunioni cyn gynted â phosibl. Mae'n bwysig hefyd fod pob trethdalwr yn ymddwyn yn gyfrifol wrth ddefnyddio'r system apelau. Mae hap-apelau yn arafu'r broses ar gyfer apelau go iawn ac yn ychwanegu at gostau gweinyddu'r system, gan amddifadu gwasanaethau eraill o adnoddau.

Mae system hirsefydlog yng Nghymru ar gyfer ymdrin ag apelau yn erbyn prisiadau ardrethi annomestig. Mae wedi hen brofi ei hun dros amser, ond nid da lle gellir gwell ac mae angen moderneiddio'r system i sicrhau ei bod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl - i'r llywodraeth ac i'r trethdalwyr.

Mae'n bleser gen i heddiw gyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio'r system apelau yn erbyn ardrethi annomestig yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi lle y mae cyfleoedd i wella'r broses a sicrhau ei bod yn adlewyrchu amgylchiadau sy'n newid a'i bod yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg gyfoes. Mae'n ceisio barn ar bob agwedd o'r broses o apelio ac ar agweddau penodol ohoni yr ydym yn cynnig eu diwygio, fel pryd yn ystod y broses o apelio y dylid darparu gwybodaeth, cyflwyno ffioedd ar gyfer apelau aflwyddiannus o bosibl, cosbau sifil newydd am ddarparu gwybodaeth ffug, a'r gofyniad i apelio mewn modd cyfrifol ac atebol.

Mae Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am sawl elfen o fframwaith deddfwriaethol y broses o apelio ond mae'r broses yn cael ei rhedeg gan ddau gorff sydd y tu allan i Lywodraeth Cymru: Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Mae rolau a swyddogaethau'r cyrff hyn mewn perthynas ag apelau yn rhan o'r ymgynghoriad hwn. Rydym eisoes wedi dechrau'r broses o ddiwygio gweithdrefnau gweithredol Tribiwnlys Prisio Cymru, ar ôl ymgynghori ar y cynigion yn gynnar yn 2017.

Ein nod yw gwneud y system yn fwy effeithlon ac effeithiol heb roi baich diangen ar drethdalwyr. Wedyn, gellir ailgyfeirio'r adnoddau sy'n cael eu rhyddhau gan hyn tuag at brosesu apelau go iawn yn gyflymach ac at wella'r gwaith o gyflwyno gwasanaethau.

Mae heddiw'n nodi dechrau cyfnod 12 wythnos o ymgynghori â’r rheini sy’n talu ardrethi, cynrychiolwyr diwydiant, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Rydym yn awyddus iawn i glywed eu barn ac i weithio'n adeiladol gyda nhw. Mae hyn yn rhoi cyfle i ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein system apelau ar gyfer ardrethi annomestig yn fwy cadarn, ei bod yn addas i'r dyfodol a'i bod yn adlewyrchu’r sylfaen drethu a natur busnesau yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at gael yr holl gyfraniadau ar y mater pwysig hwn.

Diwygio’r System Apelio ar gyfer Ardrethi Annomestig yng Nghymru