Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar ddwy ddogfen; Canllawiau Newydd Rhaglen Cefnogi Pobl a Fframwaith Canlyniadau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen. Mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu cymorth hanfodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a'r rheini sy'n cael eu hunain mewn amgylchiadau anodd iawn. Mae'n helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain neu mewn tai â chymorth. Rwy'n falch bod gennym ni yma yng Nghymru, yn wahanol i rannau eraill y DU, gyllid wedi'i ddiogelu am flwyddyn arall a fydd yn rhoi cymorth i tua 60,000 o unigolion a theuluoedd.

Yn dilyn Adolygiad Aylward yn 2010, crëwyd Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl a chyhoeddwyd canllawiau yn 2012. Cyflwynodd y Rhaglen ddull cydweithredol o lywodraethu'r Rhaglen a gweithio'n rhanbarthol i gefnogi a chynghori awdurdodau lleol.

Mae'r Canllawiau diwygiedig a gyhoeddir heddiw wedi'u datblygu drwy gydweithio'n agos â phartneriaid allanol; mae'n amlygu egwyddorion lefel uchel, megis ffocws ar atal digartrefedd, ac mae'n egluro'r trefniadau llywodraethu. Mae'r ddogfen hefyd yn adlewyrchu newidiadau ehangach i bolisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae'n adlewyrchu'r amcanion a gafodd eu cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae'r gwaith o ddatblygu'r Fframwaith Canlyniadau wedi ystyried yr agenda 'Cymunedau Cryf' ac mae'n cysylltu â gwaith Cefnogi Pobl a Dewisiadau Tai i helpu atal digartrefedd. Datblygwyd y Fframwaith hefyd ar y cyd â phartneriaid allanol ac mae'n canolbwyntio'n llawer cryfach ar bob person sy'n cael cymorth.

Mae'r Fframwaith hefyd yn cydnabod yr angen i weithio mewn ffordd sy'n fwy unol ag amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn ogystal â'r deddfwriaethau eraill a restrir uchod. Rydym wedi ceisio lleihau swm y data rydym yn eu casglu, gan ganolbwyntio'n fwy clir ar ganlyniadau a sicrhau bod data'n helpu i ddangos pa mor dda rydym yn cyflawni nodau ac amcanion y Rhaglen bwysig hon.

Gellir cael mynediad at y ddogfen ymgynghori ar y Canllawiau a'r Fframwaith Canlyniadau drwy'r dolenni hyn:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/canllawiau-fframwaith-canlyniadau-drafft-rhaglen-cefnogi-pobl

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 4 Awst 2017 ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried adborth gan randdeiliaid a phobl â buddiant.