Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad fod dogfen ymgynghori ar y thema Cydweithredu Amlasiantaethol mewn perthynas â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â chanllawiau statudol drafft i'w cyhoeddi o dan adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf').

Mae'r canllawiau drafft yn amlinellu'r gofynion penodol sydd ar yr awdurdodau perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 14 o'r Ddeddf) mewn perthynas â chydweithredu amlasiantaethol. Maent hefyd yn trafod pwysigrwydd cydweithredu amlasiantaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. At hynny, ceir eglurhad yn y canllawiau o’r elfennau sy'n allweddol ar gyfer sefydlu partneriaethau effeithiol ar dair lefel benodol: partneriaethau strategol, partneriaethau gweithredol a fforymau amlasiantaethol.  

Bydd yr ymgynhoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos tan 17 Rhagfyr 2015. Rwy'n awyddus i glywed barn y rhanddeiliaid a byddaf yn ystyried eu sylwadau yn ofalus cyn gosod y canllawiau gerbron y Cynulliad, yn unol ag adran 15 o'r Ddeddf.