Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd ei phasio’n ddiweddar gan Senedd y DU, yn rhoi pwerau trethu a benthyca  newydd i Gymru. Fel rhan o’r pecyn hwn o fesurau cyllidol, caiff y Dreth Dirlenwi ei datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu disodli’r dreth hon â Threth Gwarediadau Tirlenwi.

Rwy’n falch o’ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi ar 24 Chwefror 2015.  Dyma’r trydydd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer trethi Cymreig. Y llynedd cynhaliais ymgynghoriad ar y trefniadau ar gyfer casglu a rheoli’r trethi a ddatganolir inni, a’r wythnos nesaf byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Treth Trafodiadau Tir, a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn un agored a chynhwysfawr, gan gynnig cyfle gwirioneddol i bobl Cymru allu dylanwadu ar agweddau pwysig ar y dreth yn y cyfnod cynnar hwn ar ei datblygiad. Dylai’r dreth fod yn gyson hefyd â’r egwyddorion ar drethi Cymru yr wyf wedi’u nodi o’r blaen, a fydd yn ceisio creu treth:

  • a fydd yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n ei thalu; 
  • a fydd yn syml, gyda rheolau clir, gan anelu at gadw costau cydymffurfio a gweinyddu i’r lleiaf;
  • a fydd yn cefnogi twf a swyddi, ac a fydd, yn ei dro, yn helpu i drechu tlodi; ac
  • a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.

Mae hyn yn ddatblygiad pwysig ym mhwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at gael eich barn ynghylch sut y dylem ddatblygu’r dreth hon i ddiwallu anghenion Cymru.