Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gan fod y Cynulliad wedi ailymgynnull hoffwn dynnu sylw Aelodau'r Cynulliad at ymgynghoriad sy'n gysylltiedig â'r Bil Tai a fydd yn cael ei gyflwyno yr hydref hwn.  

Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer deddfwriaeth newydd a fydd yn helpu pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref. Bydd yn rhoi llawer iawn mwy o bwyslais ar atal digartrefedd a bydd ein cynigion yn sicrhau bod cymorth wedi'i dargedu yn cael ei gynnig i bawb a allai ddod yn ddigartref. 

Wrth i ni geisio sefydlu fframwaith deddfwriaethol mor effeithiol â phosibl ar ddigartrefedd rwy'n ystyried pob agwedd ar y modd yr ymdrinnir â digartrefedd ar hyn o bryd a sut y byddai modd ymdrin ag ef yn y dyfodol. Un agwedd ar hyn yw'r flaenoriaeth a roddir i bobl sy'n gadael y carchar ac sy'n ddigartref ers gadael y ddalfa, os ydynt yn agored i newid neu beidio. 

Dengys data gan awdurdodau lleol mai pobl sy'n gadael y carchar yw 15 y cant o'r holl aelwydydd y derbynnir eu bod yn ddigartref. Rwy'n bryderus ynghylch y baich sydd ar awdurdodau lleol a chymunedau yn sgil y dull hwn ac rwyf wedi ystyried a ddylai barhau o fewn cyd-destun ein darpariaethau deddfwriaethol arfaethedig ynghylch digartrefedd. 
Yn sgil hyn, rwyf wedi penderfynu ymgynghori ynghylch cynnig i ddiwygio'r angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pob unigolyn digartref sy'n gadael y carchar, gan gyflwyno trefn o asesu pa mor agored i niwed yw'r unigolyn. 

Byddai'r newid yn golygu nad oes gan gyn-garcharor ond angen blaenoriaethol am lety os yw hefyd yn cael ei ystyried yn 'agored i niwed yn sgil bod yn y ddalfa neu mewn lleoliad cadw' ac os oes ganddo gyswllt lleol â'r ardal ble y cyflwynir ei gais digartrefedd. 
Rwyf wedi lansio ymgynghoriad ynghylch y mater hwn a fydd yn parhau am chwe wythnos. Ymatebion  erbyn: 28 Hydref 2013. Mae'r papur ymgynghori wedi'i anfon i sefydliadau rhanddeiliaid perthnasol