Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus deuddeg wythnos ar gam cyntaf datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Rhagwelir y byddai'r Model Cenedlaethol yn estyn y swyddogaeth drwyddedu i gynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid ac sydd ar hyn o bryd yn ddi-drwydded a diweddaru'r fframwaith ar gyfer trwyddedu gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid.   

Cwblhawyd galwad am dystiolaeth wedi'i thargedu yn gynharach eleni i nodi bylchau canfyddedig yn y ddeddfwriaeth bresennol.  Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn y cyhoedd ar y meysydd hynny a nodwyd a chroesawu unrhyw gyflwyniadau pellach o dystiolaeth i gefnogi mwy o reoleiddio. Ar ddiwedd y broses, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a fydd wedi dod i law gan y cyhoedd, ynghyd â'r rhai o'r alwad gyntaf am dystiolaeth, i bennu'n blaenoriaethau o ran trwyddedu ar gyfer y dyfodol.

At ddibenion y rhan hon o'r ymgynghoriad, rydym yn ystyried y posibilrwydd o drwyddedu perchenogion a/neu geidwaid neu hyfforddwyr cŵn rasio (gan gynnwys milgwn) gyda'r bwriad o wella lles y rheini sy'n cael eu bridio neu eu magu'n benodol ar gyfer eu rasio, gydol eu hoes (o'u geni hyd at pan fyddant yn ymddeol). 

Ynghyd â'r cwestiwn a ddylid trwyddedu perchnogion, ceidwaid neu hyfforddwyr cŵn rasio, mae'r ymgynghoriad yn gofyn hefyd am dystiolaeth i gyfiawnhau neu wrthod ystyried gwaharddiad graddol yn y dyfodol.

Ein huchelgais hirdymor yw fod pob anifail yng Nghymru yn byw bywyd da. Ein gobaith yw y bydd datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid yn sicrhau ein bod yn symud tuag at gyflawni'r nod hwn.

Mae diweddaru neu greu deddfwriaeth newydd yn ddrud o ran adnoddau. Er ein bod yn deall bod yr holl weithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn yn bwysig, mae angen cryn amser i ddiweddaru deddfwriaeth.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 01 Mawrth 2024.