Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad diweddar ar y newidiadau arfaethedig i’r rhestr ardrethi ganolog ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal am 12 wythnos o 21 Ionawr 2022 tan 15 Ebrill 2022.

Daeth nifer bach o ymatebion i law, yn adlewyrchu safbwyntiau cymysg. Yn sgil y diffyg consensws ar gyfer newid, a gynigiwyd i sicrhau effeithlonrwydd gweinyddol yn hytrach nag at ddibenion polisi, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r rhestr ardrethi ganolog o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Lle y bo’n briodol, mae’n bosibl y rhoddir ystyriaeth i gynnwys hereditamentau ar y rhestr ardrethi ganolog yn y dyfodol.

Mae crynodeb o’r ymatebion ar gael yn: https://llyw.cymru/ailbrisio-ardrethi-annomestig-2023-y-rhestr-ardrethi-ganolog