Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae creu lleoedd yn helpu creu lleoliadau a datblygiadau o safon uchel yn ein trefi, ein pentrefi a chefn gwlad, sy'n bodloni ein hangen am gartrefi, swyddi a gwasanaethau cymdeithasol, tra'n ceisio cynnal a gwarchod ein hamgylchedd naturiol a hyrwyddo profiadau diwylliannol i bawb.

Mae Argraffiad 10 o Bolisi Cynllunio Cymru, sy'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad heddiw, yn ceisio sefydlu creu lle o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol, i helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar ddatblygiadau, polisïau cynllunio lleol a cheisiadau cynllunio yn helpu i hyrwyddo llewyrch i bob rhan o'r gymdeithas.

Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi ei addasu i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r 7 o amcanion llesiant a'r 5 ffordd o weithio yn creu cysylltiadau trwy'r ddogfen, o ran ei strwythur a'i gynnwys, sydd bellach yn seiliedig ar themâu sydd gyda'i gilydd yn hyrwyddo creu lle gyda'r bwriad o greu mannau cynaliadwy.  

Mae cynnwys Polisi Cynllunio Cymru o ran polisïau wedi ei ddiweddaru i gydnabod ein blaenoriaethau cynllunio o fewn Symud Cymru Ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys darparu ein hymrwymiadau o ran tai ac ynni a chynnwys yr egwyddor cyfrwng newid o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol.

Bydd yr ymgynghoriad ar y ddogfen polisi cynllunio cenedlaethol bwysig hon yn rhedeg am dros 12 wythnos, gan ddod i ben ar 18 Mai 2018. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig i ymateb a'n helpu i rannu'r dull newydd, arloesol hwn o lunio y polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru. 

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/polisi-cynllunio-cymru-argraffiad-10