Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Ionawr lansiais Ddatganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar Sgiliau.  Roedd y Datganiad yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ymhellach ar egwyddorion cyllido ar gyfer darparu sgiliau ôl-19.  Roedd yr egwyddorion hyn yn ystyried yr angen am lefelau uwch o fuddsoddi ar y cyd rhwng llywodraeth, cyflogwyr ac unigolion os yw Cymru i sicrhau system sgiliau gystadleuol a chynaliadwy.  

Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad ar sut y gellid defnyddio polisi o gyllido ar y cyd ar gyfer darparu sgiliau ôl-19 yng Nghymru.  Bydd yr ymgynghoriad yn annog safbwyntiau gan gyflogwyr, unigolion a rhanddeiliaid allweddol eraill ledled Cymru yn y meysydd allweddol canlynol:  

  • Cyrraedd ein potensial: edrych ar y mesurau perfformiad ar gyfer sgiliau hirdymor y dylem geisio eu sicrhau a sut y gellid defnyddio buddsoddi ar y cyd i flaenoriaethu'r cymorth sydd ar gael gan lywodraeth.  
  • Cynyddu'r buddsoddiad mewn sgiliau: sut yr ydym yn cael cydbwysedd rhwng pris a chynnal y ddarpariaeth sgiliau o safon uchel a pha gymhellion ychwanegol y gellid eu defnyddio i helpu unigolion a chyflogwyr i fuddsoddi mewn sgiliau.  
  • Darparu yr hyn y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi: deall sut y mae cyflogwyr yn edrych ar y system sgiliau bresennol a'r mathau o ddeilliannau dysgu neu gymwysterau y maent yn cael y gwerth gorau ohonynt.  
  • Gwella rhagolygon unigolion mewn cyflogaeth:  sut y gallem gefnogi unigolion bregus drwy bolisi o fuddsoddi ar y cyd a pha ddulliau y gellid eu defnyddio i annog cyflogwyr i fuddsoddi yn eu gweithlu.  

Rwy'n croesawu safbwyntiau gan yr holl randdeiliaid sy'n rhan o'r broses o ddapraru sgiliau ôl-19 yng Nghymru.  Rwy'n arbennig o awyddus i glywed gan gyflogwyr o wahanol faint ac o ystod o sectorau ledled Cymru.  Bydd y safbwyntiau hyn yn werthfawr iawn wrth benderfynu sut y byddwn yn darparu system ar gyfer sgiliau cynaliadwy yng Nghymru i'r dyfodol.  

Bydd yr ymatebion a ddaw i law o'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lywio'r Cynllun Gweithredu a gaiff ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2014.  Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 16 Mai 2014 gyda chrynodeb o ymatebion yn cael eu cyhoeddi'n fuan wedi'r dyddiad hwn