Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae mynd i’r afael ag allgau ariannol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod cyfnodau o ansicrwydd economaidd pan fo angen rhoi blaenoriaeth i anghenion ein trigolion tlotaf a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i dlodi a chael eu hymyleiddio. Heddiw, rwyf yn lansio diweddariad o Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2009.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hinsawdd economaidd y Deyrnas Unedig wedi cael effaith uniongyrchol ar allu llawer o deuluoedd yng Nghymru i reoli eu hincwm. Mae diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r system les hefyd yn cael effaith sylweddol ar incwm llawer o deuluoedd. Golyga hyn oll fod gwasanaethau cynghori ar ddyledion ac arian yn dod yn agweddau mwyfwy allweddol yn y frwydr barhaus yn erbyn allgau ariannol a gor-ddyled yng Nghymru. Er na allwn warchod pobl Cymru rhag y ffactorau allanol hyn yn llwyr, bydd y mesurau yr ydym wedi’u datblygu, ac y byddwn yn parhau i’w datblygu, yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.  

I gyd-fynd â’r sefyllfa gyfredol, rydym wedi diweddaru’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol, a hynny drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol. Mae’r Strategaeth yn nodi ein huchelgais o gefnogi system ariannol gynhwysfawr sy’n gweithio’n dda ac sy’n system y gall pawb fanteisio arni. Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio â sefydliadau partner i’w gwneud hi’n haws i bobl fanteisio ar gredyd fforddiadwy a gwasanaethau ariannol a hefyd elwa ar wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion. Sail hyn yw’r angen am allu ariannol gwell yng Nghymru, er mwyn i’r bobl sydd mewn dirfawr angen allu datblygu’r hyder, y gallu a’r cymhelliant i reoli eu sefyllfa ariannol yn well ac i wneud gwell penderfyniadau ariannol.

Bydd y Strategaeth yn adeiladu ar y gwaith wedi ymgymryd ag ef ers 2009. Er enghraifft, rydym wedi parhau i gefnogi gwasanaethau cynghori rheng flaen a hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol i sicrhau dull mwy cydlynol o gyflenwi gwasanaethau. Rydym hefyd wedi datblygu cynllun mwy hirdymor ar gyfer gwasanaethau cynghori o safon yng Nghymru, yn seiliedig ar wybodaeth am fylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac anghenion pobl.

Rydym hefyd wedi parhau i gefnogi Undebau Credyd wrth iddynt geisio hybu benthyca moesol a chyfrifol i bobl a fyddai, fel arall, wedi’u hallgáu’n ariannol. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cyflwyno trefniadau, drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol, i ddiogelu pobl sy’n wynebu argyfwng drwy ddarparu taliadau grant bychan iddynt.


Gallwch weld dogfennau perthnasol yr ymgynghoriad ar lein.

Gofynnwn ichi ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy lenwi ffurflen ar-lein.