Neidio i'r prif gynnwys

Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch diwygiadau arfaethedig i’r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru.

Mae’r SLS yn rhan o’r fframwaith presgripsiynu statudol sy’n llywodraethu gweithdrefnau presgripsiynu y GIG yng Nghymru. Mae’n cyfyngu ar bresgripsiynu nifer cyfyngedig o feddyginiaethau i grwpiau cleifion penodol neu i amgylchiadau clinigol penodol. Cyflwynwyd llawer o’r cyfyngiadau hyn er mwyn mynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â thystiolaeth glinigol, diogelwch cleifion, stiwardiaeth meddyginiaethau neu gost triniaethau ar yr adeg y cawsant eu gweithredu.

Yn sgil y ffaith bod ymarfer clinigol, y sylfaen dystiolaeth a’r dirwedd bresgripsiynu ehangach wedi datblygu, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o’r cyfyngiadau sydd wedi’u cynnwys yn yr SLS ar hyn o bryd. Mae’r adolygiad wedi ystyried a yw’r cyfyngiadau statudol presennol yn parhau i fod yn glinigol briodol ac yn gymesur, ac a yw mecanweithiau llywodraethiant presgripsiynu amgen yn darparu ffordd fwy addas erbyn hyn o gynnal arferion presgripsiynu diogel ac effeithiol.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar nifer o ddiwygiadau arfaethedig, gan gynnwys cael gwared â chyfyngiadau yn ymwneud â rhai cynhyrchion meddyginiaethol sydd wedi dod i ben neu rai nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, cael gwared â chyfyngiadau presgripsiynu statudol dethol nad ydynt yn adlewyrchu ymarfer clinigol cyfredol mwyach, yn ogystal â chael gwared â gofynion gweinyddol sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu meddyginiaethau gwrthfeirol rhag y ffliw.

Bwriad y cynigion yw sicrhau bod y fframwaith presgripsiynu rheoleiddiol yn parhau i fod yn gydnaws ag ymarfer clinigol cyfredol, yn hybu mynediad amserol at driniaethau sy’n glinigol briodol, ac yn gwneud defnydd priodol o’r trefniadau llywodraethiant presennol, gan gynnwys canllawiau clinigol, rheoli fformiwlâu a mecanweithiau ar gyfer goruchwylio gweithdrefnau presgripsiynu.

Yn bwysig, nid yw cwmpas yr adolygiad hwn wedi cynnwys y cyfyngiadau sy’n ymwneud ag analogau hormonau sy’n rhyddhau gonadotroffin (GnRH) a bresgripsiynir i blant a phobl ifanc ar gyfer trin anghyfathiant rhywedd neu ddysfforia rhywedd. Yn unol â hynny, nid oes unrhyw newid i’r cyfyngiadau hynny ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi heddiw a bydd ar agor er mwyn ymateb iddo nes 17 Rhagfyr 2026. Rwy’n annog clinigwyr, sefydliadau gofal iechyd, cyrff proffesiynol, cleifion, grwpiau sy’n eu cynrychioli ac aelodau o’r cyhoedd i adolygu’r cynigion a rhoi eu barn.

Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylid cyflwyno diwygiadau i’r SLS drwy gyfrwng rheoliadau yn y dyfodol.