Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 29 Mawrth 2022, cyhoeddais ddatganiad yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yn ystod tymor y Senedd hon. Heddiw, rwy'n cymryd y cam nesaf yn y rhaglen ddiwygio hon drwy lansio ymgynghoriad ar ystod o gynigion a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru.

Ers mwy na 30 mlynedd, mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r ffordd rydym yn cyllido gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gyda'r holl refeniw a gynhyrchir gan ardrethi annomestig yn cael ei ddosbarthu i lywodraeth leol er mwyn helpu i ariannu'r gwasanaethau lleol hanfodol y mae pob un ohonom yn eu defnyddio.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r uchelgais i sicrhau Cymru decach, wyrddach a chryfach. Dyma'r egwyddorion sy'n sail i unrhyw newidiadau posibl i'r system ardrethi annomestig. Rydym hefyd wedi ymrwymo'n glir i bledio'r achos dros ddatganoli trethi mewn modd clir a sefydlog a, lle y bo'n bosibl, ddeddfu i sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud yng Nghymru, ac y creffir arnynt yng Nghymru.

Mae sylfaen drethu’r ardrethi annomestig yn unigryw i Gymru, ac mae angen i unrhyw ddiwygiadau i'r system adlewyrchu hyn. Ein nod uniongyrchol yw gwneud newidiadau a fydd yn gwella'r system gyffredinol ac yn ymateb i heriau sy'n dod i'r amlwg sy'n benodol i Gymru, wrth gadw cryfderau a buddion y dreth leol bresennol ar yr un pryd.

Mae nifer o ddulliau ysgogi ar gael i Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae'r system ardrethi annomestig yn gweithredu yng Nghymru, ond mae ystod a hyblygrwydd y dulliau ysgogi hyn wedi eu cyfyngu'n ymarferol o hyd drwy gyfyngiadau deddfwriaethol a gweithredol. Nod ein hagenda ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yw mynd i'r afael â'r cyfyngiadau hyn, gan roi cyfleoedd i Lywodraeth Cymru addasu ac adnewyddu'r system i Gymru, a chynllunio elfennau a fydd yn adlewyrchu ein sylfaen drethu.

Mae'r ymgynghoriad yn trafod amrywiaeth eang o welliannau i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae ein cynigion yn cynnwys y canlynol.

  • Cylchoedd ailbrisio mwy rheolaidd, sef newid y mae llawer o randdeiliaid wedi bod yn galw amdano er mwyn sicrhau bod prisiadau ardrethi yn cynnig adlewyrchiad mwy cywir o amodau cyfredol y farchnad, ynghyd â'r mesurau ychwanegol sydd eu hangen ei gefnogi hyn.
  • Gwella'r llif gwybodaeth rhwng y llywodraeth a thalwyr ardrethi, gan fanteisio ar wasanaethau digidol.
  • Darparu deddfwriaeth fwy hyblyg i Lywodraeth Cymru ddiwygio rhyddhadau ac esemptiadau yn y dyfodol.
  • Cynnal adolygiad o ryddhadau ac esemptiadau er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn cyd-fynd ag ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu ac y caiff y cymorth sydd ar gael ei dargedu yn y ffordd fwyaf effeithiol
  • Darparu rhagor o gwmpas i amrywio'r lluosydd er mwyn helpu i sicrhau bod codiadau blynyddol yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau datblygu economaidd.
  • Gwella prosesau gweinyddu swyddogaethau prisio a rhestrau ardrethu er mwyn symleiddio prosesau a lleihau'r baich ar y llywodraeth a thalwyr ardrethi.
  • Mesurau pellach i sicrhau y gallwn barhau i fynd i'r afael ag achosion o osgoi talu ardrethi.

Byddai rhai o'r cynigion yn gwneud gwelliannau penodol yn y tymor byr i ganolig, ac mae eraill yn ymwneud â dulliau ysgogi polisi a fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i addasu a theilwra ardrethi annomestig yn well wrth i amodau newid. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn amlinellu ein gwaith parhaus i ystyried cyfleoedd ar gyfer diwygiadau mwy radical drwy ddulliau amgen yn hytrach na chodi trethi lleol yn y tymor hwy.

Byddai angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cyflawni nifer o'r cynigion sy'n destun yr ymgynghoriad hwn. Mewn datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 5 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau i gyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol tuag at ddiwedd 2023. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, gallai'r Bil gynnig cyfle i roi rhai o'n cynigion ar gyfer ardrethi annomestig ar waith.

Rwy'n sylweddoli ein bod yn lansio'r ymgynghoriad hwn ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw eisoes yn effeithio ar fusnesau a'u cyflogeion drwy brisiau nwyddau a gwasanaethau sy'n codi, a chostau ynni uwch. Bydd yr heriau hyn yn parhau wrth wraidd ein hystyriaethau, ond bydd angen amser i roi'r newidiadau a nodir yn y ddogfen hon ar waith ac iddynt gael effaith.

Mae pob un o'r cynigion yn yr ymgynghoriad yn galw am ddull cydgysylltiedig a chydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid cyflawni er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau'n ymarferol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae'r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos a bydd yn cau ar 14 Rhagfyr 2022. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn pob rhanddeiliad.

Mae'r ymgynghoriad ar gael drwy’r ddolen hon: https://llyw.cymru/diwygio-ardrethi-annomestig-yng-nghymru