Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n lansio ein hymgynghoriad ar Reoliadau pellach yn ymwneud â'r gweithlu wrth roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith. Mae'r ymgynghoriad hwn, a fydd yn cael ei gynnal am ddeuddeg wythnos, yn adeiladu ar ein hymgynghoriadau blaenorol a gynhaliwyd yn 2017 ar gofrestru categorïau pellach yn y gweithlu gofal cymdeithasol - gweithwyr gofal cartref a gwasanaethau cartrefi gofal sy'n cael eu darparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer oedolion.

Mae'r Rheoliadau drafft a sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r orfodaeth i gofrestru'r sector gofal cartref o 2020 a'n bwriad i agor y gofrestr, ar sail wirfoddol, i wasanaethau cartrefi gofal i oedolion a chanolfannau preswyl i deuluoedd o 2020 cyn y dyddiad cofrestru gorfodol yn 2022. Mae hyn yn gam arall yn y gwaith o ddatblygu ein hymrwymiad i wella proffil y sector, gan y bydd yn pwysleisio i'r cyhoedd bod gennym weithlu medrus ac ymroddedig. Bydd hefyd yn amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i ofal a chymorth urddasol, diogel a phriodol a atgyfnerthwyd drwy weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Fy mwriad yw defnyddio'r Rheoliadau hyn fel cyfrwng deddfwriaethol i godi proffil a statws ein gweithlu ymroddedig a phroffesiynol ymhellach, sef un o nodau craidd Llywodraeth Cymru. Rydym wedi nodi'n glir ein bod yn credu bod cofrestriad gorfodol gweithwyr gofal cymdeithasol yn elfen hanfodol yn hyn o beth. Rydym yn parhau i fod o'r farn bod cofrestru yn arwain at gydnabyddiaeth a chefnogaeth. Cydnabyddiaeth bod y gweithwyr hyn yn weithwyr proffesiynol medrus a chymwys, a chefnogaeth gan reoleiddiwr y gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), gyda mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant i helpu i ddatblygu a chynnal y sgiliau hyn a datblygu gyrfaoedd. Mae hefyd yn rhoi hyder i'r bobl sy'n cael gofal, a'u teuluoedd, bod gan weithwyr gofal cymdeithasol y sgiliau a'r cymwysterau cywir i wneud eu gwaith mewn ffordd broffesiynol a chydymdeimladol; ac os bydd unrhyw fethiannau, bod corff rheoleiddio yn gyfrifol am fynd i'r afael â'r methiannau hynny. 

Mae’r Rheoliad drafft cyntaf yn amlinellu cofrestriad gorfodol gweithwyr gofal cartref a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gofal cartref gyflogi a rhoi contract gwasanaethau i unigolion (h.y. gweithwyr gofal cartref) sydd wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o Ebrill 2020. O'r dyddiad hwn, bydd yn ofynnol i weithwyr newydd gofrestru gyda GCC o fewn chwe mis i gychwyn cyflogaeth, ac er mwyn gwneud hynny, bydd angen iddynt fod wedi cyflawni'r amodau a bennwyd gan GCC fel rhan o’r gofynion cofrestru.  

Mae’r ail Reoliad drafft yn ymwneud ag agor y gofrestr yn wirfoddol i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n cael eu cyflogi neu'n cael contract gan ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal i roi gwasanaethau yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer oedolion, a Gwasanaethau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd o 2020 cyn y dyddiad gorfodol yn 2022.

Rwy'n ymwybodol bod angen ymestyn y gofyniad i gofrestru i grwpiau newydd o'r gweithlu mewn modd cymesur, gydag amserlen briodol. Dyna pam rwy'n cynnig cyfnod arweiniol tebyg o ddwy flynedd ar gyfer cofrestru gweithwyr gofal preswyl i oedolion yn wirfoddol gan adlewyrchu ar y dull o gofrestru gweithwyr gofal cartref yn wirfoddol yn 2018. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i'r gweithwyr hyn ymgyfarwyddo a chydymffurfio gyda'r gofynion cofrestru. Rwy'n ymwybodol bod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cynnal cyfres helaeth o weithdai ac ymarferion ymgysylltu gyda'r sector yn ystod y broses o gofrestru gweithwyr gofal cartref ac rwy'n hyderus y byddant yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd yn ystod yr ymarfer hwnnw i helpu i gyflawni cam nesaf y broses o gofrestru'r gweithlu.

Fel rhan o'r gwaith o weithredu Deddf 2016, mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn cynnwys newid arfaethedig o ran cofrestru darparwyr gwasanaeth dan Ddeddf 2016 i roi sicrwydd pellach o addasrwydd y darparwr gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth wedi'i reoleiddio yng Nghymru. Fy mwriad yw galluogi'r rheoleiddiwr gwasanaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, i gael gwybodaeth gan gyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau byrddau neu bwyllgorau sefydliadau sy'n gwneud cais (ac eithrio awdurdodau lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol) pan fyddant yn cofrestru fel darparwyr gwasanaethau wedi'u rheoleiddio.

Yn achos sefydliadau, gellir gwneud penderfyniadau allweddol yn ymwneud â'u gwaith ar y cyd, ar lefel bwrdd neu lefel gyfatebol, ac felly mae AGC yn credu bod addasrwydd cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau byrddau neu bwyllgorau sefydliad yn ffactor pwysig wrth wneud penderfyniad ar gais sefydliad i gofrestru fel darparwr gwasanaeth.

Rwyf hefyd yn bwriadu defnyddio pwerau rheoleiddio dan adran 9(9) y Ddeddf i amrywio'r dystiolaeth y dylai Arolygiaeth Gofal Cymru (ar ran Gweinidogion Cymru) ei hystyried wrth benderfynu a yw person yn unigolyn addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth. Golyga hyn y gellir ystyried yr wybodaeth sy'n ymwneud â chyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr, ac aelodau bwrdd a phwyllgor wrth asesu addasrwydd sefydliad sy'n bwriadu cofrestru fel darparwr gwasanaeth.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

https://llyw.cymru/rhoi-deddf-rheoleiddio-ac-arolygu-gofal-cymdeithasol-cymru-2016-ar-waith