Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion deddfwriaethol i fynd i’r afael â ffioedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol chredaf fod yr amser wedi dod i ofyn cwestiynau difrifol am hawl unrhyw un yn y dyfodol i godi ffioedd ar denantiaid wrth iddynt ymgymryd â thenantiaeth neu'n wir yn ystod y denantiaeth neu hyd yn oed wedi hynny.

Gall ffioedd greu problemau mawr i bobl sy'n chwilio am lety. Gall gofyn i denantiaid ddod o hyd i flaendal, sy'n aml yn fwy na gwerth mis o rent, swm un mis o rent ymlaen llaw, ac yna ffioedd "gweinyddol" ar ben hynny fod yn gur pen ariannol anferth i rai, a gallai yrru pobl i mewn i ddyled. Gall hefyd achosi problemau wrth i bobl geisio dod o hyd i eiddo newydd yn y sector rhentu preifat.

Rwyf am wybod beth yw lefel y ffioedd a godir, beth mae'r ffioedd hynny yn ei gynnwys, a pha broblemau, os o gwbl, y byddai cael gwared â'r hawl i godi'r ffioedd hynny yn eu creu i asiantau gosod, landlordiaid, tenantiaid ac unrhyw drydydd parti sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat. Rwyf am annog pawb sy'n ymwneud â'r sector i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a fydd yn help i benderfynu pa ffioedd a gaiff eu codi yn y dyfodol os o gwbl.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn ceisio gwneud newidiadau deddfwriaethol drwy Fil Ffioedd a Godir ar Denantiaid.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/ffioedd-godir-ar-denantiaid-yn-y-sector-rhentu-preifat bydd yn cau ar 27 Medi 2017.

Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, mae Llywodraeth Cymru a minnau’n awyddus i ymgysylltu’n agored ac yn gynhwysfawr â rhanddeiliaid ac edrychaf ymlaen at drafod yn adeiladol gyda’r Cynulliad wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.