Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pleser oedd cyhoeddi Bil drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ("y Bil drafft") at ddiben ymgynghori ym mis Gorffennaf a hoffwn ddiolch i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol am y gwaith craffu cyn y broses ddeddfu y maent yn ymgymryd ag ef ynghylch y Bil drafft.

Fel rwyf wedi nodi ynghynt, mae'r Bil drafft yn cynnig system newydd radical ac uchelgeisiol ar gyfer sicrhau bod y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer bodloni anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc yn cael ei chynllunio a'i sicrhau mewn modd priodol. Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Bil drafft hwn eisoes wedi'u croesawu gan y bobl y bydd yn effeithio arnynt a chan y rhai y bydd gofyn iddynt weithredu'r newidiadau.

Rydym wedi nodi yn y modd mwyaf clir posibl ein bwriadau o safbwynt diwygio deddfwriaethol - drwy'r Bil drafft a hefyd drwy fersiwn ddrafft y Cod ADY. Cyhoeddwyd y Cod drafft hwn ym mis Medi i gyd-fynd â'r ymgynghoriad ar y Bil drafft.

Mae rhai honiadau wedi'u gwneud, fodd bynnag, y mae'r cyfryngau wedi tynnu sylw atynt sy'n camgynrychioli cynnwys y Bil drafft. Mae hyn wedi codi pryderon, a hynny heb fod angen, ac wedi peri gofid diangen i blant a phobl ifanc, eu rhieni ac i ymarferwyr. Rwy'n awyddus i weld y bobl sydd â diddordeb yn y diwygiadau yr ydym yn eu cynnig yn cyfrannu at yr ymgynghoriad ar sail dealltwriaeth gywir ag iddi sail o'r hyn y mae'r Bil drafft yn ceisio ei gyflawni.

Rwy'n awyddus i dawelu pryderon y byddai’r darpariaethau o fewn y Bil drafft yn golygu y byddai cyfrifoldeb presennol awdurdodau lleol am fodloni anghenion mwy difrifol a chymhleth dysgwyr yn cael ei drosglwyddo i ysgolion, ac y byddai hyn yn arwain at gynnydd mewn ymgyfreitha ac yn cael effaith andwyol ar y berthynas rhwng plant, rhieni, pobl ifanc ac ysgolion. Hoffwn bwysleisio nad dyma'n bwriad a hefyd nodi nad yw'n adlewyrchiad cywir o'r hyn y mae'r Bil drafft yn ceisio ei gyflawni.

Byddai'r Bil drafft yn rhannu'r cyfrifoldeb rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol, a hynny mewn modd sy'n adlewyrchu'n briodol lefel anghenion y dysgwyr. O safbwynt y dysgwyr hynny sydd ag anghenion cymhleth a difrifol, byddai'r Bil drafft yn grymuso ysgolion i gyfeirio achosion i awdurdodau lleol fel y bo angen (gweler adran 11 o'r Bil drafft). Gallai plant, eu rhieni a phobl ifanc hefyd ofyn i awdurdod lleol ailystyried penderfyniadau a gaiff eu gwneud gan ysgolion (gweler adran 17 y Bil drafft). Nid yw hyn yn wahanol iawn i'r system bresennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig lle y gall plant neu bobl ifanc sydd ag anghenion mwy difrifol a chymhleth gael eu cyfeirio i'r awdurdod lleol ar gyfer asesiad statudol neu lle y gall y rhiant ofyn i asesiad statudol gael ei gynnal. O dan y model gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy, yr ysgol sy'n pennu anghenion y dysgwyr hynny sydd ag anghenion ar lefel is a'r ysgol sydd hefyd yn darparu ar eu cyfer.

Bydd modd cyflwyno apêl i'r Tribiwnlys ynghylch penderfyniadau gan awdurdodau lleol o ran anghenion dysgu ychwanegol neu ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y plentyn neu'r person ifanc. Fodd bynnag, os bydd plentyn, rhiant neu berson ifanc yn dymuno herio penderfyniad ysgol, byddent yn gwneud hynny drwy gyfeirio'r mater i'r awdurdod lleol (ar ôl trafod â'r ysgol i ddechrau). Rydym wedi sicrhau bod y Bil drafft yn cynnwys gofyniad bod trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau yn cael eu sefydlu er mwyn ceisio sicrhau bod cyn lleied â phosibl o achosion posibl yn cael eu cyflwyno i'r Tribiwnlys ac er mwyn hwyluso'r gwaith o ddatrys materion cyn gynted â phosibl.

Mae'r Bil drafft a fersiwn ddrafft y Cod yn gwbl glir ynghylch y materion hyn ac rwy'n gobeithio y bydd adborth y sawl sy'n ymateb i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu hynny.

Mae'n gwbl allweddol sicrhau mai'r diwygiadau hyn yw'r rhai cywir. Er mai mater i'r Llywodraeth nesaf fydd hwn, rwy'n awyddus i sicrhau bod darn cadarn a chynhwysfawr o ddeddfwriaeth yn barod i'w chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddechrau'r tymor newydd. Mae adborth sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth gywir o'r hyn yr ydym yn ei gynnig yn allweddol. Rwy'n gobeithio y bydd y digwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid y byddwn yn eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn ynghylch y Bil drafft yn helpu i sicrhau hyn.