Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw, rwy'n falch o lansio ymgynghoriad ar ganllawiau cwricwla lleol 16 i 18.
Mae'r canllawiau yn nodi dyletswyddau Medr wrth iddynt gymryd cyfrifoldeb am lunio cwricwla lleol ar gyfer dysgwyr rhwng 16 a 18 oed o fis Ebrill 2026 ymlaen. Byddant yn cefnogi Medr wrth iddynt gyflymu'r broses o ddatblygu system addysg drydyddol sy'n fwy cydweithredol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr. Gan gydweithio ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach, bydd Medr yn sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at ddewis eang o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol, gan gefnogi cyfranogiad a galluogi dysgwyr i ragori yn eu llwybr dewisol. Mae'r canllawiau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd hyrwyddo'r Gymraeg a, lle bynnag y bo'n bosibl, galluogi dysgwyr i barhau â'u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wrth iddynt fynd i mewn i addysg ôl-16.
Gan ychwanegu at gryfderau'r Cwricwlwm i Gymru a'r hawl i ddysgwyr 14 i 16 oed, mae'r canllawiau hefyd yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran elfennau allweddol dysgu 16 i 18 oed. Ochr yn ochr â'u prif gymwysterau, dylai dysgwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd, a chael eu cefnogi i gynllunio ar gyfer eu camau nesaf, gan gynnwys drwy addysg a chyngor gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel. Er mwyn rhoi eglurder i Medr, ysgolion a sefydliadau addysg bellach, mae'r canllawiau hefyd yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar ailsefyll TGAU ôl-16 Saesneg, Cymraeg a Mathemateg, a'n disgwyliadau ar gyfer defnyddio Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27, bydd Medr yn datblygu eu canllawiau eu hunain ar gyfer trefnwyr cwricwlwm ac yn cydweithio â nhw i lunio'r cwricwla lleol a fydd ar gael i ddysgwyr o fis Medi 2027 ac wedi hynny. Bydd y dysgwyr hyn – 'graddedigion' cyntaf y Cwricwlwm i Gymru – yn elwa ar gwricwla lleol sy'n adlewyrchu eu diddordebau, sy'n cael eu llywio gan anghenion yr economi a'r farchnad lafur, ac sy'n cefnogi dilyniant llwyddiannus i addysg uwch neu gyflogaeth.
Bydd yr ymgynghoriad ar y canllawiau hyn ar agor tan 31 Mawrth 2026. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn dysgu ôl-16 i roi adborth ar y canllawiau drwy'r ymgynghoriad.
