Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ym mis Mawrth, rwyf wedi dechrau ymgynghoriad heddiw gyda pherchnogion a gweithredwyr cartrefi mewn parciau a phartïon â diddordeb ar p’un a ddylid cadw uchafswm cyfradd y comisiwn y ceir ei godi ar hyn o bryd wrth werthu cartrefi mewn parciau ar ei lefel gyfredol, sef 10%, neu a ddylid ei newid neu ei ddiddymu.

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol bod barn gref a gwahanol ar y mater ymhlith perchenogion parciau a phreswylwyr. Felly, gan nad oedd yr adolygiad a gomisiynwyd y llynedd o economeg y sector cartrefi mewn parciau wedi darparu tystiolaeth ddigonol i benderfynu ar ddyfodol cyfradd y comisiwn, roeddwn am roi cyfle pellach i’r rheini y mae’r mater yn effeithio arnynt i ddweud eu dweud.

Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y mater hwn i fynegi eu barn ac i ddarparu tystiolaeth gadarn. Yn benodol, dylai perchenogion parciau roi mynediad at wybodaeth ariannol fanwl os ydynt am gyfiawnhau cadw’r trefniant presennol.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cyfradd-y-comisiwn-ar-gartrefi-mewn-parciau. Daw i ben ar 17 Awst 2017.