Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ar y cymorth ardrethi annomestig arfaethedig ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos o 23 Mai hyd at 15 Awst 2023.

Ar y cyfan, roedd y rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad o blaid y cynigion, gan roi amrywiaeth o sylwadau. Rwy’n ddiolchgar am yr ymatebion manwl a phwyllog a ddaeth i law gan randdeiliaid. Bydd yr ymatebion hyn yn helpu i sicrhau bod y cynigion yn gydnaws â bwriad y polisi i helpu busnesau a phobl eraill sy’n talu ardrethi i symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwydd ffosil er mwyn datgarboneiddio gwres.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth y mae ei hangen i ddarparu rhyddhad ac eithriadau ardrethi ar gyfer rhwydweithiau gwresogi a’r defnydd o offer a pheiriannau adnewyddadwy gan safleoedd, fel yr amlinellwyd yn yr ymgynghoriad. Ein bwriad yw sicrhau bod y rheoliadau’n weithredol o 1 Ebrill 2024. Mae rhyddhad rhwydweithiau gwresogi yn amodol ar ei daith drwy ei gyfnodau terfynol ym Mil Ardrethi Annomestig (Non-Domestic Rating Bill) Llywodraeth y DU drwy Senedd San Steffan, a fydd yn cyflwyno’r darpariaethau ar gyfer rhoi’r rhyddhad.

Mae crynodeb o’r ymatebion ar gael yma: Cymorth trethi ynni adnewyddadwy