Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016 gan ddod yn gyfraith yn nyddiau olaf y Pedwerydd Cynulliad. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn torri tir newydd ac mae wedi rhoi Cymru ar flaen y gad ymhlith cenhedloedd y DU o ran gwarchod a rheoli'r amgylchedd hanesyddol.

O'r dechrau un, y bwriad wrth fynd ati i ddatblygu'r Ddeddf oedd gosod conglfaen ar gyfer pecyn ehangach o bolisïau, cyngor a chanllawiau — i gyd yn seiliedig ar Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy, a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw). Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn helpu i sicrhau bod newidiadau i'r amgylchedd hanesyddol yn cael eu rheoli'n ofalus, a hynny er mwyn i'r amgylchedd hwnnw fedru parhau i ddarparu'r llu o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y mae'n eu rhoi i Gymru, gan ymateb i anghenion ein cenedl fodern ar yr un  pryd. O gael ei warchod yn dda a'i reoli'n gynaliadwy, bydd yr amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu at gyrraedd y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn helpu i greu'r Cymru a garem yn y dyfodol.

Weddill y flwyddyn hon a dechrau 2017, byddwn yn cynnal cyfres o ymgyngoriadau er mwyn ceisio barn unigolion a chyrff sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd hanesyddol, a barn y cyhoedd, am amryfal fesurau y bwriedir iddynt ategu a chefnogi darpariaethau'r Ddeddf. Bydd y cyntaf o'r ymgyngoriadau hyn yn cael ei lansio heddiw, 11 Gorffennaf 2016 a bydd yn para am ddeuddeg wythnos, gan ddod i ben ar 3 Hydref.

Mae rhan gyntaf yr ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau am gynigion i gyflwyno pedwar darn o is-ddeddfwriaeth. Mae tri ohonynt yn gysylltiedig â chyflwyno rheoliadau gweithdrefnol a bennir yn y Ddeddf. Maent yn ymdrin â:

  • y gyfradd llog ar gostau sy'n ddyledus yn sgil gwaith brys ar adeiladau rhestredig 
  • y weithdrefn ar gyfer hawlio digollediad yn sgil hysbysiadau stop dros dro i atal gwaith nas awdurdodwyd,
  • gweithdrefn symlach ar gyfer cael cydsyniad heneb gofrestredig.

Mae'r pedwerydd darn o is-ddeddfwriaeth yn teilyngu mwy o sylw. Yn ystod yr ymgynghori a'r gwaith ymchwil a wnaed wrth ddatblygu'r Ddeddf, dywedodd nifer o'r rhanddeiliaid eu bod o blaid cyflwyno asesiadau o'r effaith ar dreftadaeth a'u gwneud yn rhan annatod o'r broses gwneud cais am gydsyniad ar gyfer gwaith ar asedau hanesyddol dynodedig. Mae asesu'r effaith ar dreftadaeth yn broses strwythuredig i wneud yn siŵr bod arwyddocâd ased hanesyddol yn cael ei ystyried wrth ddatblygu a dylunio cynigion ar gyfer newid. Bydd materion yn ymwneud â dyluniad a mynediad yn cael sylw hefyd wrth gynnal y gwerthusiad ehangach o effaith y gwaith arfaethedig.

Bydd y rheoliadau arfaethedig yn gwneud datganiad am yr effaith ar dreftadaeth, a fydd yn grynodeb o ganlyniadau'r asesiad, yn elfen ofynnol o unrhyw gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth.

Mae'n bwysig bod yr asesiad o'r effaith ar dreftadaeth yn gymesur ag arwyddocâd yr ased hanesyddol ac â maint y newid arfaethedig. Paratowyd dogfen ganllawiau, Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru, i helpu perchenogion, meddianwyr ac asiantiaid  i ddeall y broses asesu ac i baratoi datganiad o'r effaith ar dreftadaeth. Mae'r ddogfen ganllawiau honno'n rhan o'r ymgynghoriad hefyd.

Mae ail ran yr ymgynghoriad yn ceisio barn am bump o ddogfennau canllawiau eraill ar  arferion gorau:

  • Rheoli Newidiadau i Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru
  • Rheoli Newidiadau i Adeiladau Rhestredig  yng Nghymru
  • Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru
  • Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru
  • Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru

Wrth i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 gael ei pharatoi, cododd Aelodau Cynulliad, rhanddeiliaid a'r cyhoedd amrywiaeth eang o faterion sy'n effeithio ar amgylchedd hanesyddol Cymru. Byddai modd mynd i'r afael â rhai ohonynt drwy gyfrwng y ddeddfwriaeth honno. Mewn sawl achos, fodd bynnag, roedd polisïau, cyngor a chanllawiau newydd a oedd yn seiliedig ar yr athroniaeth a'r arferion sydd ohoni ym maes cadwraeth, yn ymateb mwy priodol ac effeithiol.

Ar yr un pryd â'r ymgynghoriad hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ceisio barn am gyngor cynllunio newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, sydd i'w weld mewn fersiwn ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol 24. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn wedi'i diweddaru o Bennod 6 yn Polisi Cynllunio Cymru, sy'n ymdrin â'r amgylchedd hanesyddol. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 13 Mehefin.

Yr ymgyngoriadau hyn yw cam cyntaf rhaglen a fydd, dros y ddwy flynedd nesaf, yn rhoi casgliad integredig o bolisïau, cyngor a chanllawiau i Gymru ar yr amgylchedd hanesyddol.  Gan adeiladu ar y sylfaen ddeddfwriaethol a osodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, bydd hyn yn sefydlu systemau cyfoes a chymesur ar gyfer rheoli newid mewn modd gofalus a chyson, er mwyn i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol fedru parhau i fwynhau ac i werthfawrogi'n hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr.