Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, cyhoeddir crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Rwyf hefyd yn cadarnhau fy mod wedi gosod y rheoliadau sy’n ofynnol i alluogi’r cynigion i gael eu gweithredu.
Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at ddau fater yn arbennig. Yn gyntaf, rydym yn cynnig cyflwyno lluosydd manwerthu is ar gyfer siopau bach a chanolig er mwyn ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig o’u plaid. Mae’r cynnig hwn yn cydnabod yr heriau unigryw sy’n wynebu siopau manwerthu ‘brics a mortar’, yn arbennig gan eu bod yn destun cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein.
Yn ail, rydym yn parhau i ystyried cyflwyno lluosydd uwch ar gyfer eiddo gwerth uchel, er mwyn gwrthbwyso’r refeniw a fyddai’n cael ei golli drwy’r lluosydd manwerthu is. Byddai lluosydd uwch ar gyfer yr eiddo mwyaf (o ran gwerth) yn y sylfaen drethu, sydd wedi’i osod ar lefel ychydig yn uwch na’r lluosydd safonol, yn ddigonol i gynnal lluosydd manwerthu sylweddol is.
Cafwyd 172 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Rwy’n ddiolchgar i’r rhai a wnaeth roi o’u hamser i ymateb ac rwy’n cydnabod yr ystod o safbwyntiau a rannwyd. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o blaid y cynigion, gyda lefel arbennig o uchel o gefnogaeth ar gyfer lluosydd manwerthu is. Rwyf hefyd yn cydnabod y byddai rhai rhanddeiliaid o blaid lluosydd is sy’n gymwys i sectorau eraill o’r economi ac roedd eraill yn bryderus am y posibilrwydd o gymhwyso lluosydd uwch a lefel y lluosydd hwnnw.
Bydd lefelau’r holl luosyddion ar gyfer 2026-27 yn cael eu pennu yn ddiweddarach eleni pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i lywio’r penderfyniadau hynny. Bydd hyn yn ystyried canlyniad yr ailbrisiad nesaf o ardrethi annomestig, a gaiff effaith hefyd ar 1 Ebrill 2026.
Bydd y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd nawr i alluogi’r cynigion i ddod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 wedi’u gosod gerbron y Senedd i bennu’r eiddo a fydd yn ddarostyngedig i’r lluosydd manwerthu is a’r lluosydd uwch.
Fel y nodwyd wrth lansio’r ymgynghoriad, mae’r cynigion hyn ar gyfer y defnydd cyntaf arloesol o bwerau newydd i ragnodi lluosyddion gwahaniaethol yn fwriadol yn gymharol fach o ran eu cwmpas. Bydd yr ystyriaethau ymarferol a ddaw i’r amlwg wrth weithredu yn helpu i lywio’r dull gweithredu ar gyfer diwygio’r system ardrethi annomestig ymhellach yn y dyfodol.
Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yn: https://www.llyw.cymru/cynigion-ar-gyfer-lluosyddion-gwahaniaethol-ardrethi-annomestig
