Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan Gymru hanes balch o groesawu ffoaduriaid o nifer o wledydd gwahanol, a hynny ers blynyddoedd lawer. Ar 2 Medi, gwnaeth Prif Weinidog Cymru ddatganiad clir i’r perwyl  bod Llywodraeth Cymru yn barod i chwarae’i rhan wrth ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid sydd ohoni ac i roi croeso i ffoaduriaid o Syria. Rhaid inni sylweddoli maint yr effaith ar y bobl hynny sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi, gadael eu heiddo ac yn aml, eu teuluoedd  estynedig, er mwyn ceisio lloches mewn gwlad newydd. Ar 7 Medi, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal Uwchgynhadledd er mwyn dod â chynrychiolwyr asiantaethau allweddol ynghyd i sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i helpu  i ailgartrefu ffoaduriaid o Syria yma yng Nghymru.

Roeddwn yn bresennol yr Uwchgynhadledd honno, a gynhaliwyd yn gynharach heddiw. Cydnabuwyd yr effaith y bydd ymateb i anghenion ffoaduriaid o Syria yn ei chael ar yr awdurdodau lleol ac ar wasanaethau eraill. Bydd gwaith yn mynd rhagddo ar draws Llywodraeth Cymru ac ar y cyd â’r Gwasanaethau Cyhoeddus, y Trydydd Sector a rhanddeiliaid eraill er mwyn bwrw ymlaen â’r camau y cytunwyd arnynt y bore ’ma.        

Heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad sy’n gofyn i bobl leisio barn am Gynllun Cyflawni drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Cafodd y Cynllun Cyflawni ei ddatblygu dros nifer o fisoedd yn gynharach eleni a chyn y digwyddiadau sydd wedi arwain at yr Uwchgynhadledd a gynhaliwyd heddiw. Mae’n olynu Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid, a oedd yn ymdrin â chyfnod o dair blynedd ac a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2014.  Mae’r Cynllun Cyflawni drafft yn amlinellu nifer o flaenoriaethau i wella’r gwasanaethau sydd ar gael i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Cawsant eu datblygu ar ôl ymgysylltu ag awdurdodau lleol a sefydliadau yn y Trydydd Sector sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r blaenoriaethau’n ymwneud â materion sydd o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gofal iechyd, plant, cydlyniant cymunedol a thai.

Rwy’n awyddus iawn i glywed barn ein rhanddeiliaid a hoffwn annog mudiadau ac unigolion sy’n ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn er mwyn ein helpu i ddeall y problemau ac i ddylanwadu ar y Cynllun Cyflawni. Byddwn yn croesawu safbwyntiau ynghylch pa mor briodol yw’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu yr ydym wedi’u dewis, ac am unrhyw gamau eraill y bernir eu bod yn briodol er mwyn inni fedru bwrw iddi i ddarparu gwasanaethau yn y blynyddoedd nesaf hyn. Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle hefyd i ystyried y gwersi ehangach sydd i’w dysgu o’r argyfwng presennol ac i sicrhau bod y cynllun yn caniatáu inni ymateb wrth i amgylchiadau newid.  Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos tan 10 Rhagfyr 2015.