Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o amcanion ein Rhaglen Lywodraethu yw gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr effeithiau cadarnhaol a’r effeithiau negyddol y gall yr amgylchedd sain ei gael ar iechyd a lles pobl. Ni yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys seinweddau nid mewn polisïau cenedlaethol yn unig ond mewn deddfwriaeth sylfaenol bellach hefyd.

Heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad 14 wythnos ar ein Cynllun drafft Sŵn a Seinwedd ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd rhwng 2023 a 2023. O’i fabwysiadu, bydd yn disodli’r Cynllun gweithredu sŵn a seinwedd 2018 i 2023 presennol, a hon fydd ein strategaeth genedlaethol statudol gyntaf ar seinweddau i’w chyhoeddi yn unol â Rhan 2 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

Mae’r Cynllun drafft yn cynnal ac yn gwella negeseuon craidd y Cynllun Gweithredu Sŵn a Seinwedd, sy’n cynnwys:

  • ein huchelgais o ran seinweddau priodol;
  • ein hymrwymiad i ymsefydlu’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; a
  • ein hymrwymiad i gysylltu camau gweithredu ar sŵn ac ansawdd aer gyda’i gilydd pan fydd hynny yn gwneud synnwyr.

Mae’r Cynllun drafft yn nodi’r hyn rydym wedi ei gyflawni dros y pum mlynedd ddiwethaf, megis gwaith gostegu sŵn ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae hefyd yn tynnu sylw at y datblygiadau mewn canllawiau a pholisïau cynllunio. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys ein gwaith o ran cyhoeddi a gweithredu Nodyn Cyngor Technegol (TAN 11) newydd a chanllawiau dylunio seinwedd perthnasol.

Mae’r cynllun drafft yn dangos ein mapiau sŵn diweddaraf a chanlyniadau’r cwestiynau am sŵn a ofynnwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22. Yn ogystal â hynny, mae’n cynnwys pynciau newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, megis materion yn ymwneud â gweithio o bell, amrywiaeth clywedol, pympiau gwres ffynhonnell aer, newidiadau mewn terfynau cyflymder, a thân gwyllt.

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac yn cau ar 2 Hydref. Croesewir eich ymatebion.