Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Ymgyngoriadau Cyhoeddus ar ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr.

Mae'r ddau gynllun yn canolbwyntio ar gregyn y brenin a draenogiaid môr ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y grŵp cyntaf o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y DU i fod yn destun ymgynghoriad.

Bydd y Cynlluniau yn nodi'r polisïau a'r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd er mwyn sicrhau bod stociau pysgod yn cael eu hadfer a'u cynnal ar lefelau cynaliadwy.

Bydd pob Cynllun yn nodi'r stoc bysgod, y math o bysgota, yr ardal dan sylw, yr awdurdod sy'n gyfrifol a'r dangosyddion sydd i'w defnyddio ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynllun.

Gyda'i gilydd, bydd creu'r Ddeddf Bysgodfeydd, y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd a'r Cynlluniau hyn yn newid y ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli'n sylweddol yn y DU.

Y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd a gyhoeddwyd heddiw yw'r cyntaf o 43 i'w cyhoeddi dros y chwe blynedd nesaf yn y DU.

Bydd yr ymgynghoriad, a gynhelir rhwng 17 Gorffennaf a 1 Hydref 2023, yn croesawu barn pawb sydd â diddordeb a’r bobl hynny y bydd y polisïau arfaethedig yn effeithio arnynt.

Mae ymgynghoriad cregyn y brenin ar gael yma:  Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin

Mae ymgynghoriad y draenogiaid môr ar gael yma: Gynllun Rheoli drafft Pysgodfeydd Draenogiaid Môr

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.