Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer plant mewn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal yn elfen hanfodol o’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc ehangach. Mae’r Cynllun hwn yn amlinellu’n benodol y camau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn cynnig amgylchedd cefnogol i blant a phobl ifanc dyfu i fyny ynddo.

Caiff y sylfaen ar gyfer y fenter hon ei sefydlu drwy ein wyth ymrwymiad a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu, i greu gweledigaeth newydd ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghymru. Mae’r ymrwymiadau hyn yn canolbwyntio ar newid y system yn sylweddol a sicrhau bod gofal priodol yn cael ei roi i bob plentyn. Mae hyn yn cynnwys diwygio ac integreiddio gwasanaethau plant sy’n derbyn gofal, plant wedi’u mabwysiadu a phobl ifanc sy’n gadael gofal.

Heddiw, mae’n bleser gennyf lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch newidiadau arfaethedig i reoliadau a chodau ymarfer presennol i wella gwasanaethau mabwysiadu, maethu a gofal gan berthynas yng Nghymru

Mae’r newidiadau sy’n cael eu hystyried yn elfen allweddol o’r newid radical rydym yn ei wneud i’r system gyfan ac maent mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan aelodau o’r sector gwasanaethau cymdeithasol plant ynglŷn â sut i wella’r cymorth i blant sy’n agored i niwed a’u teuluoedd ledled Cymru. 

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar y meysydd a ganlyn:

  • gwasanaethau cymorth mabwysiadu a ddarperir er mwyn symleiddio trefniadau ar gyfer darparwyr y gwasanaethau hyn a gwella’r ffyrdd o gael gafael ar wasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi’u mabwysiadu.
  • dod â rheoliadau a chanllawiau arferion da presennol ynghyd ar draws nifer o fframweithiau cyfreithiol ynghylch mabwysiadu.
  • cyflwyno dull gweithredu mwy hyblyg ar gyfer asesu addasrwydd lleoliadau gofal gan berthynas law yn llaw â dull gweithredu mwy hyblyg ar gyfer y fframwaith Plant sy’n Derbyn Gofal wrth gynnal lleoliadau.
  • proses fwy effeithiol ac effeithlon wrth drosglwyddo gofalwyr maeth o un gwasanaeth maethu i’r llall.
  • eglurhad cliriach ynghylch sut y gall gwahanol fathau o ofalwyr maeth gael y lwfans maethu uwch.
  • y broses Adolygiad Annibynnol o Ddyfarniadau.
  • sefydlu cofrestr genedlaethol o ofalwyr maeth. 

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos, gan ddod i ben ar 20 Hydref. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n annog pob rhanddeiliad, gan gynnwys unigolion, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau, i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae eich barn yn hollbwysig i sicrhau bod y newidiadau rheoleiddiol yn gadarn, yn ymarferol, ac yn cyd-fynd ag anghenion a dymuniadau’r rhai a fydd yn elwa arnynt.

Edrychaf ymlaen at gael eich ymatebion a fydd yn allweddol wrth lywio’r ddeddfwriaeth a gwella gwasanaethau i’n teuluoedd sy’n agored i niwed ledled Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.