Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, mae'n bleser gen i lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi plant yng Nghymru er mwyn iddynt gael y dechrau gorau mewn bywyd, a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at ofal a gweithgareddau chwarae o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion nhw ac anghenion eu teuluoedd.
Rhaid i ddarpariaeth gofal plant cofrestredig fodloni gofynion rheoleiddiol a rhoi sylw dyladwy i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi'u cynllunio i gynorthwyo darparwyr gofal plant i fodloni'r rheoliadau sy'n berthnasol i'r math o wasanaeth a ddarperir ganddynt.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal plant a chwarae i blant a theuluoedd sy'n hygyrch ac o ansawdd uchel.
Dyma rai o'r prif newidiadau sy'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad:
- Diweddaru strwythur a fformat y Safonau i fersiwn HTML, â dolenni i'r rheoliadau perthnasol a chanllawiau arfer gorau
- Diweddaru'r bennod ar ddarpariaeth o ansawdd uchel i alinio egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ymhellach o fewn y safonau.
- Cyflwyno dull cymesur o weithredu'r Safonau o ran staff cymwysedig a hyfforddiant cymorth cyntaf ar gyfer gwasanaethau Gwaith Chwarae Mynediad Agored, yng ngoleuni argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
- Diweddaru Safon 11 sy'n ymwneud â Meddyginiaeth a chyflwyno atodiad ychwanegol yn rhoi canllawiau ar weinyddu Parasetamol Hylifol
- Rhoi eglurder ar ddefnyddio staff yn effeithiol ar draws y lleoliad
- Cyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd o ran y cymarebau ar gyfer gwarchodwyr plant, a chaniatáu i warchodwyr plant gael un plentyn ychwanegol o dan 5 oed ond heb gynyddu'r uchafswm nifer
Mae cynnal yr adolygiad a'r ymgynghoriad hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn feirniadol gyda chynulleidfa eang, gan sicrhau bod safonau'n cael eu gwella'n barhaus, a'u bod yn addas i'r diben wrth gefnogi'r sector gofal plant a chwarae i ddarparu gwasanaethau o ansawdd.
Rydym wedi gweithio'n agos gydag ystod eang o randdeiliaid i ddeall yr heriau cyfredol y mae darparwyr gofal plant a chwarae yn eu hwynebu wrth weithredu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ymarferol. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r newidiadau arfaethedig. Mae eu cyfraniad wedi cefnogi ac arwain y gwaith hwn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses.
Mae manylion pellach am y newidiadau arfaethedig i'w gweld yn y Ddogfen Ymgynghori.
Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 10 Rhagfyr 2025.
Bydd yr adborth o'r ymgynghoriad yn helpu i sicrhau bod y Safonau yn cefnogi'r sector gofal plant a gwaith chwarae drwy ddarparu canllawiau clir i fodloni gofynion perthnasol y rheoliadau. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd crynodeb ohonynt yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2026.
