Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf heddiw lansio'r Ymgynghoriad ar Orchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026 a'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau.
Mae Gorchymyn Eithriadau 2010 yn nodi'r amgylchiadau lle nad oes angen cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan y Mesur Plant a Theuluoedd.
Pan fydd darparwr wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru, nid oes rhaid iddynt gydymffurfio â'r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd nac ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ac nid ydynt ychwaith yn cael eu harolygu gan AGC.
Dyma rai o'r newidiadau arfaethedig sy'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad:
- Diweddaru'r eithriadau a'u gwneud yn gliriach er mwyn cysoni'r gyfraith a'r canllawiau.
- Cyfyngu ar faint o weithgareddau coetsio neu ddysgu y gellir eu cynnig gan unigolyn cyn iddynt orfod cofrestru fel darparwr gofal dydd.
- Cyflwyno cyfyngiadau oedran ac amser newydd i rai o'r eithriadau.
- Diweddaru'r eithriadau o ran gwarchodwyr babanod (‘babysitters’)
- Atal gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig y mae eu cofrestriad wedi'i atal dros dro gan AGC rhag gweithredu o dan rai eithriadau.
Y ffordd orau o gyflawni'r newidiadau arfaethedig hyn fyddai disodli Gorchymyn Eithriadau 2010 â Gorchymyn newydd, sydd wedi'i deilwra'n benodol i adlewyrchu'r nodau polisi diweddaraf.
Ochr yn ochr ag adolygu'r eithriadau, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r cysyniad o Gynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau. Ar gyfer darparwyr penodol sydd wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd y byddai'r Cynllun arfaethedig. Nodau'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig yw:
- Galluogi teuluoedd cymwys i gael mynediad at gymorth ariannol fel Gofal Plant Di-dreth a Gofal Plant Credyd Cynhwysol ar gyfer ystod ehangach o wasanaethau
- Gwirio bod y darparwr wedi bodloni meini prawf cymeradwyo penodol, gan gynnwys gwiriadau diogelwch sylfaenol, a allai gynnig rhywfaint o sicrwydd i rieni am eu dewis ddarparwr
- Gwella dealltwriaeth a chefnogaeth mewn perthynas â'r sector gofal plant anghofrestredig
Byddwn yn croesawu barn y cyhoedd a'r rhai sy'n cynnig gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau ynghylch:
- pa ddarparwyr ddylai fod wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru,
- datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig ar gyfer darparwyr sydd wedi'u heithrio,
- yr effaith y byddai'r newidiadau i'r eithriadau a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig yn ei chael ar ystod o ffactorau, gan gynnwys y Gymraeg.
Rydym wedi gweithio'n agos gydag ystod eang o randdeiliaid i ddeall sut mae Gorchymyn Eithriadau 2010 yn gweithredu yn ymarferol, yn ogystal ag effaith unrhyw newidiadau ar wahanol grwpiau. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r cysyniad o Gynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig. Mae eu mewnbwn wedi cefnogi a llywio'r gwaith datblygu polisi hwn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses.
Bydd eich barn yn helpu i lywio polisïau gofal plant yng Nghymru i'r dyfodol gan sicrhau bod yr eithriadau yn gymesur a llywio datblygiad y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd crynodeb ohonynt yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2026.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
