Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae dogfen ymgynghori, sy’n ceisio sylwadau ar fersiwn ddrafft Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, wedi cael ei chyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae Adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddynodi swyddi penodol, fel bod deiliaid y swyddi hynny’n cael eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd. 

Mae’r Gorchymyn drafft yn dynodi swyddi y byddai eu deiliaid wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd (ond nid rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd). Mae’r swyddi arfaethedig wedi eu disgrifio yn yr Atodlen i’r Gorchymyn drafft.

Mae swyddi eraill sy’n anghymhwyso, ynghyd â chategorïau o berson sydd wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd, wedi eu rhagnodi gan Adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 1A iddi. Dylai’r Gorchymyn drafft gael ei ddarllen gyda’r darpariaethau hynny.

Byddai’r Gorchymyn drafft yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015, gan ddod i effaith o etholiad a gynhelir ar 5 Ebrill 2021, neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio sylwadau ynglŷn â pha swyddi y dylid eu cynnwys yn y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020. Rwy’n awyddus i gael barn rhanddeiliaid, a byddaf yn ystyried eu sylwadau’n ofalus cyn paratoi’r fersiwn ddrafft derfynol o’r Gorchymyn. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn ar agor tan 1 Medi 2020.  Mae’r manylion ynglŷn â sut i ymateb ar gael yn y ddogfen ymgynghori.

Ar ôl ystyried yr ymatebion a ddaw i law, caiff y Gorchymyn drafft ei ddwyn ymlaen ar gyfer cael cymeradwyaeth gan y Senedd cyn iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol gerbron Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.