Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd ymgynghoriad pellach heddiw ar fagu cŵn.  Mae hwn yn dilyn fy natganiad ar 28 Mehefin, pan yr ymrwymais i lunio Rheoliadau newydd i reoli pobl sy’n magu cŵn. 

Dywedais yn fy natganiad ym mis Mehefin bod codi safonau ym maes lles anifeiliaid yn parhau yn bwysig i’r Llywodraeth, ac mae delio â bridwyr cŵn diegwyddor sy’n difetha enw da bridwyr cŵn cyfrifol yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uchel.  Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid. 

Rydym wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyntaf.  Hefyd, dros yr haf bum yn gwrando’n ofalus iawn ar y pryderon a fynegwyd gan amrywiol sefydliadau am fanylion y ddeddfwriaeth arfaethedig.  Rydym wedi newid y Rheoliadau drafft i adlewyrchu’r pryderon hynny.  Ar yr un pryd bu’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cyd-fynd â safonau lles uchel, a’u bod yn cadw egwyddorion allweddol Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn y ddeddfwriaeth a’r Canllawiau ar Faterion Statudol Gweinidogion.
 
Y newidiadau allweddol ers yr ymgynghoriad cyntaf yw: 

  • newid i’r trothwyon, fel y bydd angen i unrhyw berson sydd â 3 gast sy’n magu ac sy’n magu 3 neu ragor o doreidiau y flwyddyn gael trwydded bridiwr cŵn;
  • cyfyngu ar werthu.  Bydd angen i unrhyw un sydd â 3 gast sy’n magu ac sy’n hysbysebu 3 o doreidiau ar werth y flwyddyn, sydd wedi’u geni ar y safle neu beidio, neu sy’n eu cyflenwi o fewn unrhyw gyfnod 12 mis gael eu trwyddedu; 
  • bydd newid yn y gymhareb ofynnol staff i gŵn i un gwas ar gyfer 30 o gŵn.
  • bod ci bridio bellach wedi’i ddiffinio.  Mae’n rhaid cadw cofnodion a gosod microsglodion ar gŵn bridio;  a 
  • bydd yn rhaid i safleoedd trwyddedig gael trwydded flynyddol.

Un o’r gofynion parhaus ar gyfer bridwyr cŵn trwyddedig yw gosod microsglodion ar yr anifeiliaid ar y safle, ac ar gŵn bach cyn iddynt symud oddi ar y safle / gael eu gwerthu.  Rydym yn ystyried goblygiadau ehangach ei gwneud yn ofynnol i osod microsglodyn ar bob ci ar hyn o bryd, a bydd hynny’n destun ymgynghoriad ar wahân maes o law.  

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.