Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar safon rhent a thaliadau gwasanaeth newydd i Gymru, sy'n gymwys i anghenion cyffredinol a thai gwarchod a ddarperir ar gyfer rhent cymdeithasol.
Cytunwyd ar ein polisi rhent cymdeithasol cyfredol, Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru (y 'Safon Rhent') yn 2019 am bum mlynedd. Fodd bynnag, ers hynny rydym wedi profi anwadalrwydd economaidd sylweddol a achosodd i Weinidogion Cymru osod yr uchafswm capiau rhent rhwng 2021 a 2023.
Rydym wedi cynnal adolygiad trylwyr o'r broses o weithredu'r Safon Rhent, i nodi lle y gellid gwella neu gryfhau'r polisi. Mae'r darn cymhleth a phwysig hwn o waith wedi elwa o fewnbwn sylweddol gan randdeiliaid, ac rwyf yn ddiolchgar am hynny.
O ystyried heriau economaidd y blynyddoedd diwethaf a'r pwysau costau byw parhaus y mae llawer o bobl yn eu hwynebu, rwyf am sicrhau bod ein polisi rhent cymdeithasol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fforddiadwyedd, sicrwydd a sefydlogrwydd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gasglu barn ar ein newidiadau polisi arfaethedig, a bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lunio safon rhent nesaf Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 12 Awst 2025, ac edrychaf ymlaen at adolygu eich ymatebion.
