Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd Cymru Sero Net: Cyllideb Garbon 2 yn cynnwys ymrwymiad i asesu hyd a lled yr heriau a’r cyfleoedd o ran gwres carbon isel, ac i gyhoeddi strategaeth wres i Gymru yn 2023. Heddiw mae’n bleser gen i gyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ein strategaeth wres.

Mae creu a rheoli gwres ar draws ein hadeiladau a’n diwydiant yn cyfrif am fwy na 50% o’r holl alw am ynni yng Nghymru. Mae tri chwarter ohono yn dod o losgi tanwydd ffosil. Mae’r argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol inni newid ein meddylfryd o ran ynni – i leihau’r galw amdano, cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ffynonellau ynni carbon isel. Mae hyn yn berthnasol i wresogi ac oeri ein cartrefi, busnesau ac adeiladau cyhoeddus, gwres i goginio a gwres diwydiannol.

Ond rydyn ni’n wynebu heriau sylweddol yng Nghymru. Mae ein cartrefi ymhlith yr hynaf a’r lleiaf ynni-effeithlon yn Ewrop, ac mae nifer sylweddol o’n heiddo oddi ar y grid nwy. Mae allyriadau diwydiant yn cyfrif am ganran fwy o allyriadau Cymru na chyfartaledd y DU, ac mae llosgi tanwydd ffosil ar gyfer gwres uchel yn cyfrannu’n sylweddol at hyn.

Mae’r strategaeth wres hon yn hwyluso’r ffordd ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030, ac mae’n cyfrannu at ddatgarboneiddio ein cartrefi, ein diwydiant a’n busnesau yn unol â’n cyfrifoldebau statudol erbyn 2050. Mae’n strategaeth hirdymor, gan adlewyrchu graddfa’r heriau ac ystod yr ymyriadau sydd eu hangen i hyrwyddo’r newid.

O edrych ar y dystiolaeth a gyhoeddwyd, mae achos cryf dros drydaneiddio fel y prif ateb technegol i wresogi gofod. Mae rôl debygol hefyd i rwydweithiau gwres fel ffynonellau canolog o wres a ddosberthir i gartrefi a busnesau mewn ardal benodol. Rydyn ni hefyd yn gweld rôl benodol i hydrogen i helpu i ddatgarboneiddio diwydiant yng Nghymru. 

Cyfrannodd rhanddeiliaid allweddol ar draws sectorau ac ar draws Cymru at ddatblygu’r strategaeth. Tynnwyd ein sylw at nifer o heriau penodol, gan gynnwys: diffyg gwybodaeth a chyngor clir; yr angen i wella sgiliau’r gweithlu i ymateb i’r galw am wasanaethau newydd; yr angen i gynyddu’r gadwyn gyflenwi o opsiynau gwres carbon isel newydd fforddiadwy; yr angen am gymorth ariannol penodol i gefnogi’r achos dros newid; a’r angen i fuddsoddi’n fwy yn ein seilwaith ynni i gefnogi’r symudiad oddi wrth danwydd ffosil.

Ni fydd y lefel bresennol o weithredu yn ddigon i sicrhau’r newid sydd ei angen. Mae’r Strategaeth Wres yn amlinellu ystod eang o gamau y dylem geisio eu cymryd yn unol â’r amserlenni gofynnol i fodloni ein targedau. Mae hyn yn cynnwys sefydlu fframwaith galluogi i helpu i gyflawni hyn ar draws yr economi a sicrhau proses bontio briodol. Mae hefyd yn rhoi sylw i’r ffordd y gallem dargedu ein cyllid i ategu’r achos ariannol dros newid.

Unwaith bydd y camau galluogi hyn ar waith, gallwn fynd ati i sefydlu’r safonau a’r rheoleiddio sydd eu hangen er mwyn hybu’r broses bontio, a llunio rheoliadau diogelu i’n gwarchod rhag cymryd cam yn ôl. Rhaid i hyn gynnwys dyddiad pendant ar gyfer dirwyn boeleri tanwydd ffosil i ben mewn adeiladau domestig a masnachol.

Mae’r argyfwng ynni diweddar wedi dangos mor agored yr ydyn ni i ddigwyddiadau a marchnadoedd ynni byd-eang. Mae’r prisiau anwadal wedi effeithio ar bobl a busnesau ledled Cymru. Bydd cefnogi symud oddi wrth danwydd ffosil ar gyfer ein gwres yn help i’n gwneud yn fwy gwydn o ran ynni, ac o fudd i aelwydydd a busnesau fel ei gilydd. Ond rydyn ni hefyd yn cydnabod y bydd angen i fusnesau ac aelwydydd ysgwyddo costau, ac mae yna gwestiynau pwysig i’w hystyried o ran pwy ddylai dalu am elfennau o’r pontio hwn, ac i sicrhau tegwch wrth ysgwyddo’r costau. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu manylion y costau, gan gynnwys asesu’r effeithiau ar wahanol garfanau, fel rhan o’r cam gwaith nesaf i ddatblygu cynlluniau gweithredu manwl i weithredu’r strategaeth hon.

Mae’r strategaeth hefyd yn mynd i’r afael â phwysigrwydd camau i’w cymryd gan eraill, yn nodedig Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau, yn ogystal â darparwyr sgiliau a busnesau. Ni fyddwn yn cyflawni ein hamcanion heb y camau pwysig hyn.

Bydd gweithredu mesurau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio gwres nid yn unig yn lleihau allyriadau adeiladau a diwydiant, ond bydd hefyd yn creu manteision ehangach sylweddol, gan gynnwys: cynhesrwydd fforddiadwy; busnesau gwydn; swyddi gwyrdd a thwf, a chefnogi diogelwch ynni mwy.

Mae’r ymgynghoriad ar ein strategaeth wres yn gyfle i bawb helpu i ddatblygu system wres ddi-garbon yng Nghymru sy’n cyflawni ein hamcanion sero net.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.