Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym yn cyhoeddi papur gwyn ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru). Bydd ein cynigion yn cyflawni ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau hurio preifat – gan fynd i’r afael â phroblemau trawsffiniol a diwygio safonau trwyddedu i wneud gwasanaethau’n fwy diogel, gwyrddach a thecach.

Mae Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn chwarae rôl hanfodol: yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy ymarferol drwy ddarparu cysylltiadau ar gyfer y filltir gyntaf a’r olaf o deithiau a galluogi pobl i deithio ar adegau pan nad yw gwasanaethau trafnidiaeth eraill yn gweithredu neu mewn mannau lle nad ydynt ar gael.

Mae’r Bil hefyd yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Mae tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn arbennig o bwysig mewn cymunedau sydd â lefelau isel o berchnogaeth ceir ac maen nhw’n chwarae rôl hanfodol o ran yr ysgol, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth cleifion lle nad oes dewis arall o ran trafnidiaeth gyhoeddus sy’n addas.

O ystyried pwysigrwydd y sector, dylem ddisgwyl safonau cyson ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae gormod o amrywiaeth o ran gwiriadau addasrwydd a gofynion hyfforddiant ar gyfer gyrwyr, safonau oedran ac allyriadau cerbydau, a’r gofynion i ddod yn weithredwr.

Mae hyn yn arwain at wasanaeth anghyson ac mae’n annheg ar yrwyr a gweithredwyr sy’n wynebu cystadleuaeth gan yrwyr sydd wedi’u trwyddedu i safonau is mewn awdurdodau lleol cyfagos.

Rydym yn cydnabod bod angen inni godi’r lefel honno a’i gwneud yn fwy teg, a bydd ein cynigion yn darparu gwasanaethau gwell, mwy diogel a chyson. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat trwyddedig, gyrwyr a gweithredwyr, gwella pwerau gorfodi awdurdodau lleol, a rhannu gwybodaeth yn well.

Gan fod y sector tacsis a cherbydau hurio preifat wedi moderneiddio’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw’r fframwaith deddfwriaethol wedi gallu newid yn ddigon cyflym. Mae ein cynigion wedi’u seilio ar ymgysylltu’n helaeth â’r diwydiant a rhanddeiliaid allweddol ar y materion mwyaf brys sy’n wynebu’r sector, ond rydym yn cydnabod y bydd angen rhoi sylw o’r newydd i  rai materion wrth i sefyllfa’r diwydiant barhau i esblygu.

Rwy’n croesawu barn gyrwyr, ein partneriaid cymdeithasol, y diwydiant ehangach a phawb sydd am weld sector tacsis a cherbydau hurio preifat sy’n ffynnu, yn ddiogel ac yn ddibynadwy yng Nghymru.