Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel Llywodraeth, rydym ni’n awyddus i leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd, yn enwedig y rheini sy’n arwain at anafiadau difrifol ac angheuol. Dyna pam y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i dargedu defnyddwyr ffyrdd risg uchel.

Heddiw rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diogelwch ar y Ffyrdd, sy’n amlinellu ein hagwedd strategol at ddiogelwch ar y ffyrdd hyd at 2020. 

Mae’r Cynllun yn cynnwys:

  • Gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, sy’n cydnabod bod modd osgoi pob achos o farwolaeth, a’n hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â’r rhain;
  • Targedau i leihau anafiadau, i’w cyflawni erbyn 2020;
  • Dull newydd o ddarparu diogelwch ffyrdd effeithiol – sy’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gweladwy, yn seiliedig ar dystiolaeth a gwerthusiad o’r gweithgarwch;
  • Camau gweithredu penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mewn perthynas â defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed, yr hyn sy’n arwain at ddamweiniau a pheirianneg diogelwch ar y ffyrdd, er mwyn lleihau nifer a difrifoldeb yr anafiadau.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 13 Rhagfyr 2012 ac rwy’n awyddus i dderbyn cymaint o ymatebion â phosibl er mwyn helpu i ddylanwadu ar gynllun terfynol y Cynllun Cyflawni. Rwy’n disgwyl gallu cyhoeddi’r Cynllun terfynol yn gynnar yn 2013.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynn