Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r ymgynghoriad 12 wythnos ar gyfer Cynllun Hawliau Pobl Anabl arfaethedig, fel rhan o'n nod i hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pob person anabl yng Nghymru

Mae’r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad cyfartal. Wrth wraidd ein dull gweithredu mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n ein helpu i ddeall sut y gall pobl anabl gael eu hanfanteisio a'u heithrio gan gymdeithas. 

Rydym hefyd yn cael ein harwain gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy'n cynnwys yr hawl i fyw'n annibynnol ac yn nodi mesurau ar gyfer amddiffyniad cymdeithasol. Mae'r Confensiwn yn cydnabod hawl pob person anabl i gael safon byw briodol iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd, a'r hawl i amddiffyniad cymdeithasol ac i fwynhau'r hawl honno heb wahaniaethu.

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan yng nghymdeithas Cymru ar sail gyfartal ac yn rhydd o rwystrau, a chreu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bawb. Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i gynnal ein ffordd o fyw yng Nghymru ar sail ein gwerthoedd Cymreig a lleisiau pobl yng Nghymru.

Mae'r cynllun hwn, sy'n seiliedig ar waith caled aelodau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, yn nodi ein huchelgais 10 mlynedd trawslywodraethol a'r canlyniadau hirdymor yr ydym yn gweithio tuag atynt i sicrhau y gall pobl anabl ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, ac i herio gwahaniaethu a rhagfarn. 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'i weithgorau, ac i'r Athro Debbie Foster am ei harweinyddiaeth fel cyd-gadeirydd y Tasglu. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Cadeiryddion a arweiniodd y 10 gweithgor thematig: Rhian Davies, Alice Moore, Angharad Price, Joe Powell, Willow Holloway, Damian Bridgeman, Natasha Hirst ac Andrea Gordon.

Dim ond os bydd sefydliadau a phobl ledled Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i'w gyflawni y bydd y cynllun hwn yn llwyddo. Byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol i ddarparu cyngor a chymorth ynghylch gweithredu a chyflawni'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl a'i effaith.

Rydym eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl ledled Cymru ac rwy'n annog sefydliadau ac unigolion i ymateb. 

Hoffwn hefyd ddiolch i'r sefydliadau niferus a gefnogodd waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'i weithgorau thematig.