Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wedi dechrau ymgynghori heddiw ar y cynigion ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol. Mae'r ymgynghoriad yn egluro'r opsiynau sydd ar gael i Gymru. Mae angen dewis un ohonynt bellach. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Grŵp Rhanddeiliaid Modelu Data a'r Grŵp Lefel Uchel sydd wedi ystyried yr opsiynau ac wedi llywio datblygiad yr ymgynghoriad. Mae'r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill sy'n cymeryd rhan wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr sy'n cael ei werthfawrogi.

Mae gan Lywodraeth Cymru nodau polisi ers amser maith ar gyfer cyflwyno y Cynllun Taliad Sylfaenol yn y cynllun diwygio hwn ar gyfer y PAC. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad sy'n asesu sut y bydd yr opsiynau gwahanol yn cyd-fynd â hwy. Yr amcanion pwysicaf yw i gwblhau'r paratoadau ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol mewn pryd i wneud taliadau ar gyfer ffenestr taliad 2015 sy'n rhedeg o'r 1 Rhagfyr 2015 tan 30 Mehefin 2016, ac yn ail i fod yn hyderus bod y trefniadau ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol yn cydymffurio â'r rheoliadau, fel y gellir cyflwyno'r Cynllun Taliad Sylfaenol heb broblemau. Mae gallu cwblhau'r trefniadau a gwneud taliadau ar amser yn hollbwysig ar gyfer lles y diwydiant ffermio yng Nghymru.

Mae cyrff rhanddeiliaid a minnau yn rhannu nod ers amser i ganfod opsiynau sy'n rheoli y tarfu ariannol fydd yn y ffordd orau i'r diwydiant ffermio yn gyffredinol, wrth symud i system dalu sy'n seiliedig ar ardal ac i gydnabod nodweddion gwahanol y tir ffermio sy'n bodoli ledled Cymru. Rwy'n siomedig ei fod bellach yn ymddangos yn anhebygol y bydd system ranbarthol o unrhyw fath yn ymarferol. Byddai cynnig rhanbarthol yn opsiwn da o ran lleihau'r tarfu ariannol yn y diwydiant yn gyffredinol, ond er mwyn rhoi hyn ar waith byddai'n rhaid imi wneud yn siwr bod pob tir wedi'i ddosbarthu'n gywir yn yr amser sydd ar gael. Nid yw'n ymddangos yn bosibl i wneud y gwaith mapio manwl angenrheidiol ychwanegol, ac i ganiatâu am unrhyw apeliadau fydd yn cael eu gwneud, mewn pryd ar gyfer taliadau 2015.

Bydd yr ymgynghoriad yn para deuddeg wythnos ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o ymateb o ystyried pwysigrwydd y mater i'r diwydiant. Bydd fy mhenderfyniad terfynol yn cael ei lywio gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad, barnu pa mor ymarferol fydd rhoi y Cynllun Taliad Sylfaenol ar waith yn ddiogel heb oedi di-angen wrth wneud taliadau i'r hawlwyr, a sut i gyflawni amcanion polisi Cynllun Taliad Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Rwy'n gobeithio cyhoeddi fy mhenderfyniad ym mis Gorffennaf yn dilyn ystyriaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.