Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym yn agor ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar gynigion ar gyfer y Gronfa Twf Lleol newydd yng Nghymru i ni gael bod yn barod i roi'r gronfa hon ar waith ym mis Ebrill 2026. 

Bydd y Gronfa Twf Lleol yn buddsoddi £547m o gyllid Llywodraeth y DU yng Nghymru dros dair blynedd. Am y tro cyntaf ers i ni adael yr UE, bydd Llywodraeth Cymru yn cael penderfynu sut i wario’r cyllid datblygu economaidd rhanbarthol pwysig hwn. 

Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad yn adeiladu ar dystiolaeth a gasglwyd drwy waith a wnaed ar y cyd â phartneriaid ar Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, ein prosiectau gyda'r OECD ar ddatblygu economaidd rhanbarthol, a mewnbwn llywodraeth leol a'r Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol dan gadeiryddiaeth Carolyn Thomas AS. 

Mae'r cynigion hefyd yn defnyddio'r dadansoddiad diweddaraf o dystiolaeth economaidd-gymdeithasol a gwersi a ddysgwyd o raglenni cyllido blaenorol, gan gynnwys rhai gan Bwyllgorau'r Senedd.

Mae'r ddogfen ymgynghori, sydd ar gael yma, yn adlewyrchu ein hamcanion allweddol ar gyfer y cyllid hwn: cynyddu cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd. Mae'n cyd-fynd â Chenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru a chenhadaeth twf a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn am farn ar yr amcanion y dylem eu blaenoriaethu wrth fuddsoddi o'r rhai a nodwyd mewn gwahanol feysydd blaenoriaeth:

  • Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol  gan gynnwys ffocws ar fynd i'r afael â rhwystrau i dwf cwmnïau a mentrau cymdeithasol, megis allforio neu ehangu a chael hyd i gyllid, buddsoddi mwy mewn ymchwil a datblygu a chyfnewid gwybodaeth, a manteisio ar gyfleoedd mewn sectorau twf uchel fel AI, seiberddiogelwch, a thrawsnewid digidol.
  • Cefnogi pobl i weithio a gwella sgiliau – gan gynnwys ffocws ar gynyddu gweithgarwch economaidd, cefnogaeth ar gyfer dyrchafiad mewn gwaith i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, gwella lefelau sgiliau, a chefnogaeth ar gyfer sgiliau sy'n ymateb i’r galw mewn sectorau twf uchel a rhanbarthol bwysig.
  • Seilwaith gwyrdd a defnyddio ynni'n effeithiol – gan gynnwys ffocws ar gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a charbon isel, trafnidiaeth carbon isel a chysylltedd digidol sy’n ychwanegu at werth, a buddsoddi cyfalaf i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac arbed ynni mewn tai.
  • Seilwaith lleol sy'n gyrru economïau rhanbarthol – gan gynnwys ffocws ar seilwaith lleol, gan gynnwys asedau treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth. 

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar sut i gyflawni'r Gronfa Twf Lleol, gan gynnwys ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol, a'r trawsnewidiad o'r Gronfa Ffyniant a Rennir.

Byddwn yn cynnal pedwar digwyddiad rhanbarthol i drafod cynigion gyda phartneriaid o Gymru. Caiff y manylion eu cyhoeddi yn y man ar wefan Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn parhau i drafod yn uniongyrchol â llywodraeth leol i sicrhau newid esmwyth, a chyda'r Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol i’n helpu i ddatblygu cynigion. 

Rydym yn bwriadu cyflwyno Cynllun Buddsoddi i Lywodraeth y DU cyn gynted â phosibl y flwyddyn nesaf er mwyn iddi allu trosglwyddo cyllid i Lywodraeth Cymru. 

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y Gronfa Twf Lleol wrth i'r gwaith fynd rhagddo dros y misoedd nesaf.