Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n cyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn casglu barn ac yn helpu i lywio ein hagwedd at fwyd mewn ysgolion.

Yng Nghymru, mae ein polisi o ran y bwyd a gynigir mewn ysgolion yn adlewyrchu ein dealltwriaeth o'r rhan bwysig y mae bwyd da yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu, lleihau anghydraddoldebau iechyd a helpu plant i ffynnu. Mae’r dystiolaeth yn dangos fod y canlyniadau hyn yn well pan fydd y bwyd a gynigir yn faethlon, yn cyd-fynd â chyngor deietegol, a phan gefnogir dysgwyr i ddeall pwysigrwydd bwyta ac yfed yn iach, a datblygu arferion bwyta'n iach gydol oes.

Dyna pam rydym yn diweddaru'r Rheoliadau a'r Canllawiau am fwyd mewn ysgolion yn seiliedig ar argymhellion deietegol diweddaraf Llywodraeth y DU a'r arferion gorau. Gwnawn hynny drwy weithio gyda phobl ifanc, rhieni, arlwywyr, ysgolion, cyflenwyr, cynhyrchwyr lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau y gall pob plentyn yng Nghymru gael deiet cytbwys yn yr ysgol. 

Bydd y gwaith hwn yn digwydd fesul cam, gan ddechrau gyda chasglu barn am y gofynion bwyd a safonau maeth diweddaraf mewn ysgolion cynradd. Gan fod pob dysgwr mewn ysgolion cynradd a gynhelir bellach yn gallu cael cinio am ddim, a llawer yn gallu elwa ar y cynnig o frecwast am ddim, mae gennym gyfle pwysig i helpu i sicrhau bod y bwyd y maen nhw'n ei dderbyn mewn ysgolion yn darparu cyfran sylweddol o'u gofynion maeth dyddiol. 

Ar gyfer ysgolion uwchradd, mae'r sefyllfa'n fwy cymhleth. Mae llawer wedi newid ers i'r Rheoliadau gael eu cyflwyno gyntaf yn 2013. Mae mwy o ddewis i ddysgwyr, sy'n cynnwys mwy o opsiynau ar gyfer bwyd ar frys, ac amrywiaeth o batrymau bwyta trwy gydol y diwrnod ysgol. I adlewyrchu hyn, rydym yn cyhoeddi cais am dystiolaeth i ddeall y lleoliadau hyn yn well cyn datblygu cynigion penodol.

Ond, ar gyfer y ddau gyfnod addysg, rydym yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach fel bod dysgwyr yn cael eu cefnogi'n well i ddatblygu arferion bwyta'n iach gydol oes. Felly, rydym yn gofyn barn am ganllawiau cryfach i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar gyflawni eu dyletswyddau i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach.

Mae'r ymgynghoriad sy'n lansio heddiw yn ceisio barn ar y canlynol:

  • Rheoliadau drafft Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) (‘y Rheoliadau drafft’) a'r canllawiau statudol drafft ategol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion cynradd a gynhelir
  • Canllawiau ar ddarparu gofynion deietegol ar bresgripsiwn gan feddyg a gofynion dietegol eraill
  • Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar gyflawni eu dyletswyddau i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach
  • Sut y gallwn sicrhau ein bod yn cynnig bwyd cytbwys a deniadol mewn ysgolion uwchradd

Dros amser, nod ein newidiadau arfaethedig sy'n seiliedig ar dystiolaeth yw:

  • Gwella mynediad at fwyd ysgol iachach
  • Helpu plant i ddatblygu arferion bwyta'n iach gydol oes
  • Darparu dognau o faint priodol ar gyfer babanod a phlant iau
  • Cefnogi ysgolion i roi'r Rheoliadau newydd ar waith mewn modd hyblyg

Rydym hefyd yn cydnabod y rôl werthfawr y mae ffermwyr Cymru yn ei chwarae wrth ddarparu bwyd lleol a chynaliadwy. Ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod mwy o fwyd Cymreig lleol ar blatiau ysgol. Ers cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gan gynnwys cymorth cyllid prosiectau Llywodraeth Cymru a dulliau caffael cyhoeddus cydweithredol, mae gwariant awdurdodau lleol ar fwyd Cymreig wedi mwy na dyblu ers 2021. 

Rydym am adeiladu ar y momentwm hwn ac yn croesawu barn ar sut y gall y ddarpariaeth o brydau ysgol yng nghyd-destun ein newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau a'r Canllawiau barhau i gynnig cyfleoedd pellach i economi bwyd Cymru.

Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 20 Mai a 29 Gorffennaf 2025 a bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn bwyd, iechyd plant ac addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rydym yn bwriadu gosod y Rheoliadau diwygiedig gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2025, a bwriedir iddynt ddod i rym yn ystod 2026-27.

Rydym yn deall yr heriau ymarferol sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau lleol wrth ddarparu bwyd o ansawdd uchel bob dydd. Dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i gefnogi'r gwaith ymarferol o weithredu unrhyw newidiadau.

Drwy weithio ar y cyd, gallwn greu gofynion bwyd a safonau maeth sy'n gweithio i bawb – gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol.