Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 29 Tachwedd 2011 cyhoeddais fy mhenderfyniad polisi i fynd ati i sefydlu un corff amgylcheddol i Gymru. Gwnes fy mhenderfyniad ar ôl ystyried yn ofalus yr achos busnes manwl a ddatblygwyd dros y naw mis blaenorol.

Heddiw rwy’n lansio’r ymgynghoriad ar y cynigion i sefydlu’r corff newydd. Yn benodol, mae’r ymgynghoriad yn delio â:

• Ein cynigion cyffredinol
• Cynigion i weithredu’r newidiadau deddfwriaethol sy’n ofynnol er mwyn sefydlu’r corff newydd
• Ein hamcanion ar gyfer y corff newydd, ynghyd â’r ffordd rydym yn bwriadu nodi ei ddiben cyffredinol 
• Ein trefniadau arfaethedig ar gyfer ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys dulliau o sicrhau atebolrwydd a thryolywder yng ngwaith y corff newydd
• Ein cynigion ar gyfer prif swyddogaethau a phwerau’r corff, gan gynnwys ystyried rhai elfennau o swyddogaethau Llywodraeth Cymru a Byrddau Draenio Mewnol
• Ein cynigion ar gyfer statws y corff a sut y caiff ei reoli, gan gynnwys trefniadau ar gyfer bwrdd gweithredol ac ymgysylltu’n ehangach â rhanddeiliaid
• Sut rydym yn bwriadu delio â materion sy’n ymwneud â llywodraethu trawsffiniol a’n cynigion ar gyfer y cysylltiad â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y corff yn gwbl atebol iddyn nhw.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi nifer o feysydd gwaith y mae angen ymgynghori ymhellach arnynt. Yn eu plith mae dyfodol Byrddau Draenio Mewnol – y rhai sydd yng Nghymru neu’n bennaf yng Nghymru – a chynllun iaith y corff newydd. 

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael o wefan Llywodraeth Cymru yn http://www.wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/singlebody/?lang=cy.  Bydd yr ymgynghoriad yn para o 9 Chwefror 2012 tan 2 Mai 2012. 

Rhoddaf wybod i’r cyfarfod llawn yn nes ymlaen eleni beth yw canlyniadau’r ymgynghoriad.