Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar newidiadau y bwriedir eu gwneud er mwyn cyflwyno Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yng Nghymru.

Pryd bynnag y bydd unrhyw fywyd yn cael ei golli neu'n cael ei effeithio'n sylweddol gan  gam-drin, esgeulustod neu drais, mae angen i ni fel asiantaethau cyhoeddus weithio gyda'n gilydd i nodi beth arall y gellid bod wedi'i wneud i atal digwyddiad mor drasig rhag digwydd, a'r hyn y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.

Yn hanesyddol, mae asiantaethau datganoledig a'r rhai nad ydynt wedi’u datganoli, wedi cael y cyfrifoldeb o adolygu trasiedïau o'r fath, ac mae pob un ohonynt wedi bod yn gwneud hynny gan ddefnyddio prosesau, gweithdrefnau, deddfwriaeth a chanllawiau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant, Adolygiadau Lladdiad Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Lladdiad Domestig. Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad academaidd ac adolygiad ymarferwyr i ddeall yn llawn y cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth brosesau adolygu yng Nghymru. Yn dilyn yr adolygiadau hyn, cyflwynwyd argymhellion a gafodd eu cymeradwyo gan  Weinidogion a dechreuodd prosiect yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ym mis Rhagfyr 2019.

Roedd Llywodraeth Cymru’n awyddus i ddeall sut y gellid gwella'r systemau hyn i gael gwared ar yr angen i deuluoedd gymryd rhan mewn cylch beichus a thrawmatig o roi gwybodaeth, ac aros am gasgliadau adolygiadau lluosog. Roedd angen inni sicrhau hefyd, unwaith y byddai'r holl wybodaeth bwysig hon wedi'i chasglu, ein bod yn ei defnyddio ym mhob ffordd bosibl i atal niwed ac i wella ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022, hefyd wedi cyflwyno Adolygiadau Lladdiad ag Arf Ymosodol ar gyfer Cymru a Lloegr. Ymgynghorir ar Ganllawiau Statudol yng ngwanwyn 2023 yn ogystal â sefydlu tair ardal beilot yn Ne Cymru, Birmingham a Llundain. Drwy weithio'n agos â’r Swyddfa Gartref, rydym wedi cytuno y gall yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl fod yn gyfrwng i gynnal adolygiadau o'r fath, gan osgoi proses adolygu ychwanegol yng Nghymru.

Fel rhan o’r prosiect, mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu Cronfa Gwybodaeth Ddiogelu Cymru a fydd yn cadw’r holl adolygiadau hanesyddol a chyfredol. Gan ddefnyddio gwyddor gyfrifiadurol a thechnolegau dysgu peirianyddol, bydd y gronfa’n  darparu trefn thematig unigryw o drosolwg a dysgu ar lefel Cymru. Bydd yr Hyb Cydgysylltu Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl, gan weithio gyda’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, yn hwyluso hyfforddiant a dysgu lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, a rhyngwladol.  Gyda'i gilydd bydd y systemau hyn yn cefnogi unrhyw newidiadau i arferion, prosesau a diwylliannau a fydd yn atal niwed yn y dyfodol.

Mae'r Adolygiad Sengl yn enghraifft unigryw ac arloesol o’r ffordd yr aethom ati, drwy gydweithio ar draws ffiniau gwleidyddol, sefydliadol a daearyddol, i fynd i’r afael â phroblem gymhleth sy’n perthyn inni i gyd a chreu datrysiad symlach i’w ddefnyddio ar y cyd. Mae mwy na 190 o randdeiliaid wedi bod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a chreu’r Adolygiad Sengl, ac mae pob un ohonynt wedi gwneud yn siŵr bod y dioddefwr, y teulu a’r gymuned yn ganolog i’r newid hwn.

Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i sicrhau, pan fo unrhyw fywyd yn cael ei golli neu pan fydd rhywun yn cael ei niweidio'n ddifrifol, ein bod yn gwneud popeth sy’n bosibl i ddysgu gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith er mwyn gwneud y dyfodol yn fwy diogel.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau sy'n cael eu cynnig i’w gweld yn y deunydd ymgynghori.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan ddydd Gwener 9 Mehefin. Defnyddir adborth o'r ymgynghoriad i gwblhau'r Canllawiau Statudol ac i roi proses yr Adolygiad Sengl newydd ar waith drwy Gymru.