Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2017 ar gyfer ymgynghoriad.

Mae WelTAG 2017 yn diweddaru WelTAG 2008, a gyhoeddwyd i roi arweiniad i ddatblygu, arfarnu a gwerthuso prosiectau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.  

Cafodd WelTAG 2017 ei ysgrifennu i adlewyrchu’r arfer gorau presennol yn y maes hwn ac i gydfynd â Model Busnes Pum Achos sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer achosion busnes sy’n cydfynd â cheisiadau am gyllid gan y sector cyhoeddus.  Manteisiwyd ar y cyfle i gwtogi’r arweiniad ac i gynnwys egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  

Bwriad y prif newidiadau yr ydym yn eu cynnig yw:

  • Adlewyrchu arfer gorau presennol ym maes arfarnu trafnidiaeth, tra’n cwtogi’r ddogfen a lleihau’r angen am ddiweddariadau;  
  • Cyfuno WelTAG a’r Model Busnes Pum Achos fel bod penderfyniadau am fuddsoddiadau busnes yn ystyried yr achos busnes llawn ar gyfer yr ymyrriad; a
  • Cynnwys egwyddor datblygu cynaliadwy a chwmpasu amcanion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.