Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth cyhoeddais ymgynghoriad ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adolygiad annibynnol Richard Penn o fframwaith safonau moesegol llywodraeth leol ("y fframwaith")

Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod y fframwaith presennol yn 'addas at ei ddiben' a’i fod yn gweithio'n dda yn ymarferol.  Fodd bynnag, awgrymwyd y gallai gwneud rhai newidiadau arwain at fwy o bwyslais yn y Fframwaith ar atal cwynion, gwella’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion a sicrhau bod y safonau moesegol yn cael eu gwella ymhellach. 

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar nifer fach o faterion a gafodd eu codi wedyn mewn trafodaethau â rhanddeiliaid.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Crynodeb o Ymatebion i'r Ymgynghoriad. Cafwyd 31 o ymatebion i’r ymgynghoriad ac rwy'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd am ystyried y materion a mynegi eu barn. Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth eang i’r cynigion.