Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad fod dogfen ymgynghori ar "Gofyn a Gweithredu" wedi cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â chanllawiau statudol drafft i'w cyhoeddi o dan adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf').  Yn ogystal â hyn, mae'r ymgynghoriad yn berthnasol i ganllawiau i'w cyhoeddi o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Bydd y ddwy set o ganllawiau yn ffurfio'r ddogfen ymgynghori ar “ Gofyn a Gweithredu”.  

Mae'r canllawiau drafft yn amlinellu gofynion penodol awdurdodau perthnasol  (fel y'u diffinnir yn adran 14 o'r Ddeddf) mewn perthynas â "Gofyn a Gweithredu" - dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion ar gyfer ymholi wedi'i dargedu o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i'w ddefnyddio yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos tan 27 Ionawr 2016.  Mae'n holl bwysig bod safbwyntiau'r rhanddeiliaid yn cyfrannu at ddatblygu'r canllawiau hyn yn y dyfodol a byddaf yn ystyried y rhain yn ofalus cyn gosod y canllawiau a gyflwynir o dan adran 15 o'r Ddeddf 2015 gerbron y Cynulliad.