Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar y diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (y Ddeddf), i estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio o dair blynedd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir (TTT), o dan amgylchiadau penodedig.

Ers i'r Ddeddf gael ei phasio yn 2017, mae amgylchiadau andwyol newydd wedi codi sy'n achosi anawsterau i brynwyr a gwerthwyr tai, o dan amgylchiadau penodedig, o ran y rheolau ad-dalu ac eithrio ar gyfer cyfraddau preswyl uwch TTT.

Ar hyn o bryd, codir cyfraddau preswyl uwch TTT ar drafodiadau, gan gynnwys pryniant annedd neu anheddau sy'n costio £40,000 neu ragor, pan fydd y prynwr tŷ yn berchen ar fuddiant mewn un neu ragor o anheddau eraill sy'n werth mwy na £40,000. Gall ad-daliadau ac eithriadau fod yn gymwys, ond dim ond am hyd at dair blynedd o ddyddiad prynu'r cartref newydd.

Mae profiadau wedi dangos inni y gall diffygion diogelwch tân heb eu datrys a chyfyngiadau brys a osodwyd gan y llywodraeth, ar adegau, rwystro neu atal trafodiadau, gan olygu bod y cyfnod ad-dalu ac eithrio o dair blynedd yn rhy fyr. Bydd y rheoliadau newydd yn caniatáu i brynwyr tai, o dan amgylchiadau penodedig, gael mwy o amser i wneud cais am ad-daliadau a hawlio eithriadau.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth 2024. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymateb. Ar ôl i'r ymgynghoriad gau, byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol i'r ymatebion ac yn cyhoeddi adroddiad. Fy nod yw gosod yr offeryn statudol drafft gerbron y Senedd i'w gymeradwyo cyn gynted â phosibl ar ôl i'r ymgynghoriad gau.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.