Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i lywio'r gwaith o ddrafftio rheoliadau allweddol o dan Ddeddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Chwefror.
Mae bysiau yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru, gan gysylltu pobl â gwaith, addysg, gofal iechyd a hamdden. Bwriad y ddeddfwriaeth hon yw rhoi pobl wrth wraidd sut mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a'u darparu, gan gefnogi rhwydwaith mwy cyson, dibynadwy a hygyrch.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar dri maes allweddol y Ddeddf:
- Contractau (adran 11) – mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu'r telerau sydd i'w cynnwys mewn contractau gwasanaethau bysiau lleol.
- Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (adrannau 27 a 28) – mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n llywodraethu darparu gwybodaeth a data am wasanaethau bysiau lleol.
- Cymhwyso Rheoliadau TUPE (adran 37) – sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer cymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 i drosglwyddo cyflogeion mewn perthynas â chontractau gwasanaethau bysiau lleol.
Mae'r cynigion hyn wedi'u datblygu trwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol, gweithredwyr, undebau llafur a'r sector ehangach, gan gydnabod pwysigrwydd partneriaeth gref wrth gyflawni gwelliannau ystyrlon a pharhaol i wasanaethau bysiau lleol.
Rwy'n gwahodd pawb sydd â diddordeb mewn gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru i rannu eu barn. Bydd yr adborth hwn yn chwarae rhan bwysig wrth lunio'r rheoliadau, gan helpu i sicrhau eu bod yn darparu system sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau ledled Cymru.
