Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ceisio mynd i'r afael ag achosion llygredd dŵr o weithgareddau amaethyddol ar draws Cymru. Mae'r mesurau'n helpu i gyflawni ystod eang o'n rhwymedigaethau rhyngwladol a domestig ac i gynnal enw da ffermio yng Nghymru o ran safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned ffermio wrth ddefnyddio'r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer, gan weithredu dull sy’n targedu’r gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd.

Daeth cam 2 y rheoliadau i rym ar 1 Ionawr 2023, ac eithrio'r terfyn nitrogen blynyddol o 170kg/ha ar gyfer tail da byw. 

Rydym wedi ymgynghori ar gynllun trwyddedu lle gall unrhyw fusnes fferm wneud cais am drwydded ar gyfer terfyn nitrogen blynyddol uwch o 250kg/ha yn amodol ar angen o ran cnydau ac ystyriaethau cyfreithiol eraill. Gwnaethom ymgynghori ar gynigion i gynllun o'r fath fod yn weithredol tan 2025.

Rydym yn ymestyn y dyddiad gweithredu ar gyfer terfyn blynyddol o 170kg/ha o 30 Ebrill 2023 i 31 Hydref 2023 er mwyn caniatáu mwy o amser i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a rhoi amser i ffermwyr baratoi unwaith y bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau’n ymrwymedig drwy'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru i weithio gyda'r gymuned ffermio wrth ddefnyddio'r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer, gan ddefnyddio dull sy’n targedu’r gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd.

Ymgynghoriad: Rheoli maethynnau: rheoli’r defnydd cynaliadwy o dail da byw