Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae alcohol yn un o brif achosion marwolaethau a salwch yng Nghymru; mae'n arwain at niwed i iechyd a niwed cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer y lleiafrif o bobl sy’n goryfed. Yn 2016, bu 504 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol ac yn 2016-17, bu bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae modd osgoi pob marwolaeth a phob derbyniad i'r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Rydym wedi nodi'n glir ers tro bod yn rhaid i'r ymyrraeth â'r pris fod yn rhan allweddol o’n strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol, yn enwedig oherwydd bod alcohol wedi mynd yn llawer mwy fforddiadwy dros yr ugain mlynedd diwethaf. Fe wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol gefnogi isafbris uned ym mis Mehefin, pan basiwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Cafodd Gydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.

Mae Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 wedi'i hanelu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o yfed symiau uwch o gynhyrchion rhad sy'n cynnwys lefelau alcohol uchel. Mae'n darparu fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris cymwys am alcohol drwy luosi canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned. Mae hyn yn ein galluogi i dargedu gwerthiant a chyflenwad alcohol rhad a chryf.

Mae'r Ddeddf yn nodi y bydd yr isafbris uned yn cael ei bennu mewn rheoliadau. Cyn gosod y rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rwyf heddiw’n lansio ymgynghoriad ynghylch lefel yr isafbris uned a ffefrir.

Gan ystyried ystod o ffactorau, credwn fod isafbris uned o 50c yn ymateb cymesur i fynd i'r afael â'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol.

Ystyriwn y bydd isafbris uned o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision iechyd cyhoeddus  a chymdeithasol a ragwelir a'r ymyrraeth yn y farchnad.

Nid ymgynghoriad am yr egwyddor o osod isafbris uned yw hwn. Rydym wedi ymgynghori ddwywaith ar yr egwyddor o gyflwyno isafbris uned am alcohol yng Nghymru – yn 2014 fel rhan o Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd  ac yn 2015 ar Fil drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

Ymgynghoriad yw hwn ar yr isafbris uned a ffefrir, a bydd ar agor am 12 wythnos. Yna, byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus ac yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r cwestiynau, bydd rheoliadau drafft yn pennu'r isafbris uned at ddibenion y Ddeddf yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i'w hystyried.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnwys y rheoliadau drafft sy'n pennu lefel yr isafbris uned a ffefrir, ynghyd â Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ac maent ar gael yma: https://beta.llyw.cymru/gosod-yr-isafbris-am-alcohol<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

1Ymgynghoriad 2014 ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, Gwrando arnoch chi: Mae eich iechyd yn bwysig.

 

https://gov.wales/betaconsultations/healthsocialcare/white-paper/?skip=1&lang=cy

 

2Ymgynghoriad 2015 ar Fil Drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

 

https://llyw.cymru/betaconsultations/healthsocialcare/alcohol/?skip=1&lang=cy