Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n cyhoeddi Papur Gwyrdd i weld a yw pobl o’r farn fod angen Bil i ymdrin ag iechyd pobl Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd â cham pwysig yn y Rhaglen Lywodraethu, sef:“Ymgynghori ar yr angen am fil ym maes iechyd y cyhoedd i osod dyletswyddau statudol ar gyrff i ystyried materion iechyd y cyhoedd.”
Mae’r pwyslais a roddir ar faterion yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae amryw o bolisïau pwysig yn adlewyrchu hyn, fel y rheini sydd mewn dogfennau fel Law yn Llaw at Iechyd, Ein Dyfodol Iach a Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb. Mae cyhoeddi’r Papur Gwyrdd hwn yn dilyn ymlaen yn naturiol o’n hymrwymiad i wella ac amddiffyn iechyd poblogaeth Cymru.
Mae llawer iawn eisoes wedi’i gyflawni i wella ac amddiffyn iechyd ein pobl. Er hynny, nid yw iechyd cyffredinol pobl Cymru yn cyfateb yn llwyr i’n dyheadau. Yn benodol, mae angen mynd ati ar frys i wneud mwy i atal afiechyd yn y lle cyntaf, ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd. Mae’r Papur Gwyrdd hwn yn cychwyn trafodaeth ehangach ar iechyd, ynghylch a fyddai cyflwyno deddfwriaeth newydd yn ffordd effeithiol o wneud cynnydd pellach mewn meysydd pwysig fel y rhain, gyda’r nod cyffredinol o sicrhau cymdeithas iachach a thecach. Mae’n rhoi cyfle gwerthfawr inni edrych i ba raddau y gallai deddfwriaeth ein helpu i gyflawni ein dyheadau cyffredinol ar gyfer iechyd a lles pobl Cymru, a’n helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau cymhleth sy’n wynebu ein hiechyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Diben y Papur Gwyrdd hwn yw gweld a yw pobl o’r farn fod angen Bil i ymdrin â’r materion hyn yng Nghymru. Nid ymgynghori ar gynnig deddfwriaethol manwl yw ei fwriad, ond yn hytrach, hwn yw’r cam cyntaf tuag at ystyried y posibilrwydd o ddatblygu deddfwriaeth newydd. Yn y Papur Gwyrdd rydym yn amlinellu rhai syniadau cynnar ac yn rhoi cyfle i bobl awgrymu dulliau amgen o ddeddfu. Bwriadwn ysgogi trafodaeth a dechrau dadl gyhoeddus ehangach am iechyd. Byddwn yn defnyddio’r ymatebion i’r ymgynghoriad fel sail ar gyfer gwaith pellach, cyn penderfynu a oes angen Bil. Os oes ei angen, fe’u defnyddiwn i benderfynu beth ddylai’r Bil hwnnw geisio’i gyflawni.Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 20 Chwefror 2013 a byddaf yn ystyried yr ymatebion yn y gwanwyn cyn penderfynu ar y camau nesaf. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod yr Aelodau yn cael gwybod am hynt y gwaith hwn wrth inni symud ymlaen.Mae’r Papur Gwyrdd i’w weld ar-lein.