Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad i’r Cyfarfod Llawn am y Strategaeth y Môr a Physgodfeydd Cymru ar 18 Mehefin 2013, nodais y prif flaenoriaethau a fyddai’n llywio’r Cynllun Gweithredu Strategol hwnnw. Mae’r adolygiad o bysgod cregyn yn ardaloedd rhynglanwol Cymru wedi canolbwyntio ar reoli pysgodfeydd cocos sydd werth miliynau lawer i economi Cymru.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion i reoli pysgodfeydd cocos rhwng mis Gorffennaf a mir Hydref 2012.

Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad cyntaf yn cyflwyno mandad clir ar gyfer cyflwyno trefn newydd ar gyfer Pysgodfeydd Cocos ledled Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r pysgodfeydd a chynyddu dulliau olrhain a gorfodi. Cafwyd cefnogaeth i’r canlynol: 

  1. cynllun cocos diwygiedig yng Nghymru;
  2. mabwysiadu dull amlasiantaeth;
  3.  dull gwell o olrhain cocos;
  4. cyflwyno rhagor o reoliadau;
  5. cynllun pysgotwyr ifanc /prentisiaethau;
  6. pysgota gydol y flwyddyn, ar sail cyfanswm y ddalfa a ganiateir;

Ar ôl dadansoddi’r canlyniadau, rhoddwyd ystyriaeth bellach i rai o elfennau’r cynigion, yn enwedig y fethodoleg ar gyfer dyroddi trwyddedau o dan drefn rheoli cocos newydd yng Nghymru.

Mae fy swyddogion wedi edrych ar yr elfennau fel rhan o’r pecyn o fesurau ac wedi mireinio’r cynigion ynghylch manylion y fethodoleg ddyroddi trwyddedau ac egluro protocolau’r cynllun rheoli newydd arfaethedig ar yfer pysgodfeydd cocos Cymru.

Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus a fydd parhau am 12 wythnos a bydd yr argymhellion o’r ddau ymgynghoriad yn cael eu gweithredu fel mater o flaenoriaeth er mwyn disodli’r system rheoliadau bresennol a pharatoi ar gyfer y tymhorau nesaf.