Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad ar yr ymarfer ailbrisio ardrethi annomestig nesaf yng Nghymru a fydd yn dod i effaith yn 2021, yn unol â'r sefyllfa yn Lloegr. Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am brisio'r holl eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion cyfrifo biliau ardrethi.

Prif ddiben yr ailbrisio, a phennu'r lluosydd i gyd-fynd â hyn, yw addasu atebolrwydd eiddo o gymharu ag eiddo eraill yn y sylfaen drethu ardrethi annomestig. Mae hyn yn sicrhau bod atebolrwydd yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng trethdalwyr ac yn seiliedig ar werthoedd rhenti cyfredol. Yn ei dro, mae hyn yn sicrhau bod meddianwyr pob eiddo annomestig yng Nghymru yn talu eu cyfran deg o ardrethi yn seiliedig ar y gwerthoedd diweddaraf.

Mae gwaith ar y gweill gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i roi gwerthoedd ardrethol newydd i bob eiddo annomestig yng Nghymru yn seiliedig ar werthoedd rhenti a amcangyfrifwyd fel ar y Dyddiad Prisio Rhagflaenol, sef 1 Ebrill 2019.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn defnyddio tri dull o gyfrifo gwerth ardrethol eiddo gan ddibynnu ar y dystiolaeth sydd ar gael. Defnyddir un ohonynt, Sylfaen y Contractwr, ar gyfer eiddo arbenigol lle nad oes unrhyw dystiolaeth ar gael am y gwerth rhenti. Mae tua 6,000 o eiddo ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael eu prisio gan ddefnyddio dull Sylfaen y Contractwr. Mae'r eiddo hwn yn cynnwys cyfleustodau, ysgolion, ysbytai, diwydiant trwm, gorsafoedd tân a heddlu, a meysydd awyrennau ymhlith eraill.

Mae'r gyfradd ddatgyfalafu yn rhan allweddol o'r dull Sylfaen y Contractwr o brisio. Ffigur canrannol ydyw a ddefnyddir i drosi gwerth cyfalaf yn werth rhenti blynyddol.  Mae'n sicrhau bod costau a manteision bod yn berchennog eiddo, o'i gymharu â rhenti eiddo, yn cael eu hystyried wrth gyfrifo gwerth ardrethol eiddo. Ers 1990, mae'r gyfradd ddatgyfalafu wedi cael ei rhagnodi mewn deddfwriaeth ar gyfer pob ymarfer ailbrisio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad technegol i gasglu barn a ddylid rhagnodi cyfraddau datgyfalafu mewn deddfwriaeth, faint o gyfraddau y dylid eu rhagnodi a sut y dylid cyfrifo'r cyfraddau hynny. Bydd yr ymarfer ymgynghori yn para am 12 wythnos a gofynnir am ymatebion erbyn 30 Mai 2019.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma:

https://beta.llyw.cymru/cyfraddau-datgyfalafu-i-gymru-ar-gyfer-ailbrisio-arderthi-annomestig-2021