Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ystadegydd Gwladol ynghylch ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'r ymgynghoriad yn nodi cynigion ynghylch sut y gellid gosod data gweinyddol wrth wraidd ystadegau am y boblogaeth. O ganlyniad, ni fyddai o bosibl angen dibynnu mwyach, fel y gwneir ar hyn o bryd, ar gyfrifiad bob deng mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Mae'r ymateb hwnnw yn nodi'r amrywiol ffyrdd hanfodol y mae ystadegau am y boblogaeth a mudo gan SYG yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru. Mae ein hymateb yn nodi bod cynigion SYG yn diwallu ein hanghenion yn rhannol. Nodwyd hefyd, fodd bynnag, fod angen rhagor o ymchwil mewn rhai meysydd i roi sicrwydd y gellir diwallu ein hanghenion yn llawn gan system ystadegau sydd â data gweinyddol wrth ei gwraidd.

Un o’r prif resymau dros ddefnyddio’r ystadegau yw ar gyfer dyrannu cyllid, gan gynnwys defnyddio amcangyfrifon poblogaeth yn fformiwla Barnett, er enghraifft, a defnyddio data am y boblogaeth a data’r cyfrifiad gan SYG yn y setliad ariannol blynyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.

Defnyddir data manwl o'r cyfrifiad ar nodweddion y boblogaeth, gan gynnwys am nodweddion gwarchodedig a'r iaith Gymraeg, yn eang ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt i ddeall canlyniadau gwahanol grwpiau o'r boblogaeth mewn ardaloedd bach, fel y gellir targedu gwasanaethau lle y mae eu hangen fwyaf. Mae'n hanfodol, felly, fod y system ystadegol yn parhau'n hollgynhwysol er mwyn iddi ddarparu tystiolaeth gadarn, gywir a manwl. Mae arnom angen tystiolaeth o’r fath fel y gellir ei defnyddio i helpu i sicrhau Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu.

Mae fy llythyr at Syr Ian Diamond, yr Ystadegydd Gwladol, yn nodi'n fras y ffyrdd allweddol hyn o ddefnyddio'r ystadegau a phwysigrwydd ystadegau am y boblogaeth a mudo gan SYG yng Nghymru. Bydd yn hanfodol bod unrhyw system ystadegau am y boblogaeth a mudo i Gymru yn y dyfodol yn gallu diwallu'r anghenion hyn ac yn gallu cynhyrchu ystadegau cywir, o ansawdd uchel, ar gyfer Cymru. Dylai'r ystadegau hyn ar gyfer Cymru fod o'r un ansawdd â'r amcangyfrifon ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig (DU), a dylid gallu eu cymharu’n gyfartal â'r amcangyfrifon hynny.

Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad parhaus â Llywodraeth Cymru wrth i Awdurdod Ystadegau'r DU lunio ei argymhelliad ynghylch dyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru.